Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybrau Diogel yn y Gymuned – Ysgol Gynradd Lôn y Mynydd

Published: 05/07/2018

Digwyddiad Ymgynghori Cyhoeddus Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus gan ennill nawdd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ar y ffyrdd a thagfeydd ar Lôn Knowle, Ffordd yr Eglwys a Ffordd Linthorpe, Bwcle er budd y gymuned a’r plant sy’n mynychu Ysgol Gynradd Lôn y Mynydd. Hoffai Cyngor Sir y Fflint groesawu preswylwyr i fynychu digwyddiad Ymgynghori Cyhoeddus lle bydd swyddogion ar gael i drafod y bwriad ac i ateb cwestiynau. Cynhelir yr ymgynghoriad yn Ysgol Gynradd Lôn y Mynydd ddydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2018 rhwng 3:30pm a 7pm.