Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi digwyddiad Cwrdd âr Prynwr

Published: 06/07/2018

Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint yn cael effaith gadarnhaol ar fusnesau bach lleol yn y sir. Mae’r rhaglen yn adeiladu tai cyngor a thai fforddiadwy newydd ar draws Sir y Fflint. Mae’r contractwr a benodwyd gan y Cyngor, Wates Residential North, yn cynnal digwyddiad fydd yn darparu cyfle i fusnesau bach lleol ganfod mwy am y datblygiadau tai newydd hyn gyda’r nod o gael eu cyflogi fel isgontractwyr. Mae croeso i’r holl fusnesau bach lleol sy’n ymwneud â’r diwydiant adeiladu ac sydd wedi’u lleoli yn Sir y Fflint ymweld â swyddfa Wates, hen Lyfrgell yr Wyddgrug ar Raikes Lane yn yr Wyddgrug ar 19 Gorffennaf rhwng 8am a 10am i gael rhagor o wybodaeth. Estynnir gwahoddiad i bob maes o’r diwydiant adeiladu gan gynnwys gwaith daear, gosodwyr brics, towyr, gweithwyr plymio a thrydanol, plastrwyr, seiri, paentwyr, tirlunwyr a ffenswyr. Fe fydd Datblygu Busnes yn mynychu’r digwyddiad mewn partneriaeth â Sir y Fflint mewn Busnes. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae nifer o fusnesau lleol wedi elwa o weithio gyda ni eisoes, o ganlyniad i’r bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. Mae cam nesaf SHARP yn rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol eraill gymryd mantais o hyn, waeth pa mor fawr ydyn nhw. “Rydym yn awyddus i barhau i greu cyfleoedd cyflogaeth trwy ddefnyddio busnesau lleol. Byddwn yn annog busnesau bach yn y diwydiant adeiladu i fynychu’r digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth ac i weld sut y gallant gyfranogi.