Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybrau Diogel yn y Gymuned – Ffordd Neuadd Brychdyn, Brychdyn Digwyddiad Ymgynghori Cyhoeddus

Published: 06/07/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus gan ennill nawdd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ar Ffordd Neuadd Brychdyn. Mae cynlluniau’r ddeddf yn cynnwys parth 20mya gyda mesurau gostegu traffig. Hoffai Cyngor Sir y Fflint groesawu preswylwyr i fynychu digwyddiad galw heibio Ymgynghori Cyhoeddus lle bydd swyddogion y Cyngor ar gael i drafod y bwriad ac i ateb cwestiynau. Caiff yr ymgynghoriad ei gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Brychdyn a Bretton, 1 Brookes Avenue, Brychdyn CH4 0RD ddydd Mawrth 12 Gorffennaf 2018 rhwng 3.30pm a 7pm. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Strydwedd a Chefn Gwlad, “Bydd y cynllun yn gwella diogelwch a hygyrchedd i blant sy’n mynychu Ysgol Gynradd Brychdyn a bydd hefyd o fudd ir gymuned leol syn defnyddio gwasanaethau ac adnoddau yn yr ardal hon. Mae gan y cynllun fuddion ehangach hefyd am ei fod yn ffurfio rhan o gynllun ehangach i weithredu darpariaeth beicio rhwng yr Wyddgrug a Brychdyn ac ymlaen i Sandycroft a Saltney.