Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Gwasanaeth Bwyd

Published: 12/07/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2018-19 yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 17 Gorffennaf. Mae’r cynllun wedi cael ei lunio gan swyddogion o’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd ac mae’n nodi sut bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac mae’n adolygu perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn ymdrin â diogelwch bwyd (gorfodi diogelwch bwyd a deddfwriaeth hylendid bwyd ym mhob sefydliad bwyd yn y sir), safonau bwyd (gwirio sefydliadau a delio â chwynion) a phorthiant (ymweld ag eiddo bwydo, darparu gwybodaeth delio â chwynion). Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell: “Trwy gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd eleni, bydd y Cabinet yn sicrhau bod y lefel uchel o ddiogelwch a hylendid bwyd sydd eisoes wedii sefydlu yn y sir yn parhau. Mae’n tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn gweithio’n arbennig o galed i sicrhau y gall preswylwyr Sir y Fflint fod â hyder yn lefel uchel yr hylendid bwyd. Mae’n rhaid i mi ychwanegu bod gan y tîm gyflawniadau trawiadol dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys y rhai sydd wedi’u rhestru isod. Ar ran y Cabinet, llongyfarchiadau i chi gyd a da iawn”. · Cyflawni 100% o archwiliadau Hylendid Bwyd wedi’i raglenni ym mhob band risg. · Rhagori ar y targed ar gyfer y canran o fusnesau bwyd newydd y daethom yn ymwybodol ohonynt o fewn y flwyddyn a dderbyniodd archwiliad ar gyfer Hylendid Bwyd a Safonau Bwyd. · Cyflawni 100% o archwiliadau Safonau Bwyd wedi’u rhaglenni ym mand risg A – C. · Cynyddodd y canran o eiddo sydd â gradd 5 Hylendid Bwyd o 74.5% i 79.0%, ac mae gan 97.3% o fusnesau radd 3 neu uwch o gymharu â 96.3% y flwyddyn flaenorol. · Cyflawni 100% o archwiliadau a samplo porthiant.