Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erlyniad drwy Gynllun Glanhaur Cyngor

Published: 21/07/2014

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i erlyn gwraig wedi iddi fethu â thalu dirwy hysbysiad cosb benodedig am daflu sbwriel. Bu i gynllun glanhau’r amgylchedd y Cyngor erlyn Miss Shelley Huntstone o Bromfield Park, yr Wyddgrug wedi iddi hi gael dirwy am ollwng stwmp sigarét ar 29 Ebrill ar Clayton Road, Yr Wyddgrug. Methodd Miss Huntstone â thalu’r hysbysiad cosb benodedig o £75 cyn pen 14 diwrnod a chafodd ei herlyn yn Llys Ynadon Wrecsam lle cafodd ddirwy o £210. Os cewch Hysbysiad Cosb Benodedig am faw cwn, sbwriel neu graffiti, gall talu’r ddirwy cyn gynted ag sy’n bosibl ostwng cyfanswm y ddirwy. Mae dirwy Cosb Benodedig safonol yn £75 ond mae’n gostwng i £50 os caiff ei thalu cyn pen saith diwrnod. Os na thelir y ddirwy bydd problemau’n codi a gall Cyngor Sir y Fflint erlyn rhywun ar ôl i’r achos gael ei drosglwyddo i’r Llysoedd. Nid all y Cyngor reoli lefel y ddirwy os yw’r erlyniad yn llwyddiannus. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros y Strategaeth Wastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Bwriad y cynllun glanhau yw cyfleu neges gref i’r lleiafrif o bobl sy’n dal i fynd ati i daflu sbwriel ar strydoedd Sir y Fflint. “Mae’r cynllun am i drigolion allu mwynhau ffyrdd a mannau cyhoeddus glân ac nid yw’r Cyngor am oddef sbwriel, baw cwn, tipio anghyfreithlon na graffiti. Os nad yw pobl yn talu’r ddirwy ddechreuol bydd y Cyngor yn eu herlyn.” Gall trigolion roi gwybod i’r Cyngor am achosion o faw cwn, sbwriel, tipio anghyfreithlon a graffiti drwy ffonio 01352 701234. Nodwch amseroedd, lleoedd ac enwau os yw hynny’n bosibl.