Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erlyniad llwyddiannus o fasnachwr twyllodrus

Published: 12/07/2018

Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i erlyn masnachwr twyllodrus yn ddiweddar. Plediodd Ashley Colin Turner o 83 Chester Road, Huntington, Caer, yn euog i 7 cyhuddiad o gyflenwi a meddu ar nwyddau ffug o dan y Ddeddf Nodau Masnach 1994. Yn gynharach y llynedd, fe wnaeth cynrychiolwyr o Rubies Masquerade - cyflenwyr gwisgoedd uwch-arwyr, gysylltu â Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint, i ddweud eu bod wedi canfod cyflenwr gwisgoedd uwch-arwyr ffug ar Ebay, Prynwyd ganddynt fel prawf, a chadarnhawyd fod yr eitem yn ffug gan gynrychiolydd o Warner Brothers. Gwnaed gwiriadau, a’r cyflenwr oedd Cestrian Sports yn masnachu o Rowleys Drive yn Shotton. Ym mis Medi’r llynedd, fe gynhaliwyd chwiliad yng nghyfeiriad cartref Mr Turner a’r cyfeiriad yn Shotton. Atafaelwyd dau gant a hanner o eitemau, lle’r oedd dau gant a hanner ohonynt yn ffug, gyda gwerth stryd o £7,236.22. Derbyniodd y llys bod Mr Turner yn unigolyn o gymeriad da yn flaenorol, a oedd wedi sefydlu busnes llwyddiannus ac wedi methu â deall y pwysigrwydd o nodau masnach cofrestredig. Cafodd Mr Turner ddirwy o £1,125 ac fe’i gorchmynnwyd i dalu costau ymchwiliad o £2,211 ac iawndal o £7,236.22 i Rubies, cafodd hefyd orchymyn i dalu tâl ychwanegol o £200, gan wneud cyfanswm o £10,772.22. Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell: “Mae hwn yn ganlyniad da iawn ar ôl ymchwiliad trylwyr gan Wasanaeth Safonau Masnach Sir y Fflint, ac yn esiampl dda o’r math o ganlyniadau y gellir eu cyflawni drwy waith partneriaeth da. Mae’r ddirwy a’r iawndal yn adlewyrchu nad yw’r troseddau hyn heb eu dioddefwyr, fel y tybir llawer. Dyma ddwyn nodau masnach y mae cwmnïau’n gwario llawer iawn o arian arnynt iw datblygu, ac mae hefyd wedi cael effaith andwyol ar y cwmnïau hynny sy’n gwerthu cynhyrchion go iawn.” Dywedodd Mike O’Connell, Pennaeth Byd-eang Gwrth-ladrad yn Rubie’s Masquerade Co. (UK) Ltd: “Dyma ganlyniad ffantastig arall i’r tîm yn Rubie’s yn ein brwydr yn erbyn cynhyrchion ffug a’r rhai sy’n eu gwerthu. Hoffem fynegi ein diolch ir holl swyddogion yn Safonau Masnach Sir y Fflint am eu cefnogaeth a’u cymorth o gychwyn cyntaf y gweithrediad hwn. “Mae erlyniadau llwyddiannus fel hyn, yn dangos sut mae masnachwyr twyllodrus yn cael eu trechu o ganlyniad i gydweithrediad agos rhwng Rubie’s a gorfodaeth y gyfraith. Gyda’n gilydd, rydym yn brwydro yn ôl yn erbyn y bygythiad cyson o wisgoedd a theganau ffug. “Mae ein tîm byd eang yn gweithio’n helaeth ar ganfod a chael gwared ar gynhyrchion ffug, ar draws pob llwyfan masnachu ac yn y siop. Os yw unrhyw un yn amau eu bod wedi prynu nwyddau ffug neu fod rhywun yn eu gwerthu, dylent roi gwybod i Safonau Masnach ar 03454 040506.