Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno Gwyfyn yr Yd i Bwll Dwr Rawlings, Cei Connah

Published: 17/07/2018

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn rheoli nifer o byllau dwr yn y sir i’w cadw’n ffafriol ar gyfer Madfallod Dwr Cribog a rhywogaethau cynhenid eraill. Maer pyllau dwr hyn yn agored i blanhigion pyllau dwr goresgynnol sy’n cael eu mewnforio yn ddiarwybod o ganolfannau garddio. Un planhigyn o’r fath yw Rhedyn Azolla. Mae pwll dwr yn y sir bellach wedi ei heintio â’r rhedyn hwn a fydd, os caiff ei adael i dyfu’n ddirwystr, yn creu gorchudd blanced dros y pwll dwr a fydd yn y pen-draw yn niweidiol i’r rhywogaethau sy’n byw ynddo. Bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn defnyddio Gwyfyn yr Yd fel bio-reolaeth a fydd yn bwyta’r rhedyn yn naturiol ac yn adfer y pwll dwr i gyflwr ffafriol. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Diolch i nawdd gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Building Wildlife, gallwn reoli’r rhywogaeth oresgynnol hon mewn modd ecogyfeillgar, fel bod y pwll dwr unwaith eto’n dod yn hafan i’r Madfallod Dwr Cribog.”