Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyniad Meysydd Chwarae Cymru

Published: 22/07/2014

Mae arweinwyr cymunedol wedi derbyn plac a fydd yn cael ei arddangos ym Maes Chwarae Llys Ben yn Neuadd Llaneurgain i ddynodi ei statws Maes Chwarae 11 y Frenhines Elisabeth. Mae’r statws yma wedi ei ddyfarnu gan sefydliad or enw Meysydd Chwarae Cymru (y Gymdeithas Meysydd Chwarae Genedlaethol gynt) ac maen golygu bod y cae chwarae yma, ynghyd ag 14 o feysydd hamdden eraill yn Sir y Fflint, wedi eu diogelu fel man agored cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r maes chwarae wedi ei ddiogelu trwy weithred cytunedig rhwng y tirfeddianwyr, Cyngor Sir y Fflint, a Meysydd Chwarae Cymru, sy’n cyfyngu defnydd y tir ar gyfer chwarae, chwaraeon a hamdden awyr agored yn unig. Dan nawdd Dug Caergrawnt, mae Her Meysydd Chwarae’r Frenhines Elisabeth yn diogelu mannau agored cyhoeddus ac yn etifeddiaeth cyffyrddadwy i Jiwbilî Diemwnt Ei Mawrhydir Frenhines a Gemau Olympaidd 2012. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Mae meysydd hamdden yn adnoddau hanfodol ar gyfer cymunedau ac maen bwysig eu bod yn cael eu diogelu. Maen nhw’n cynnig rhywbeth i bobl o bob oed, boed yn lle i bobl hyn ymlacio neu’n rhywle y gall plant gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hwyliog. Ewch i www.fieldsintrust.org am fwy o wybodaeth. Y 15 maes hamdden yn Sir y Fflint sydd wedi eu diogelu dan Her Meysydd Chwarae y Frenhines Elisabeth yw: Cymdeithas Chwaraeon Argoed, Mynydd Isa Ffordd Dolgoed, Yr Wyddgrug Maes Hamdden Gronant King George Street, Shotton Ardal Chwarae Licswm Maes Chwarae Llys Ben, Neuadd Llaneurgain Maes Bodlonfa, yr Wyddgrug Maes Chwarae Pennant, Mostyn Cae Pêl-droed North Street, Saltney Ferry Parc Phoenix, Coed-llai Maes Hamdden Phoenix Street, Sandycroft Parc Tywysog, Cei Connah