Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Wyneb Newydd ar y Ffordd yn Church Road, Bwcle

Published: 27/07/2018

Yn fuan, bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhoi wyneb newydd ar y ffordd yn Church Road, Bwcle o’r gyffordd rhwng Church Road a’r A549 a Drury Lane.

Y dyddiad cychwyn yw dydd Llun 6 Awst 2018 a bydd yn cymryd oddeutu pythefnos i gwblhau’r gwaith.

I hwyluso’r gwaith o roi wyneb newydd, bydd angen cau’r ffordd gydag arwyddion i ddangos llwybr y gwyriad.

Bydd mynediad i eiddo unigol a busnesau yn cael ei gynnal er y gallech wynebu oedi.

Hoffai Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr, Roadway Civil Engineering Ltd, ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal hanfodol hwn a byddant yn ymgymryd â’r gwaith mor fuan â phosibl.