Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Peidiwch â cholli’ch llais - trigolion Sir y Fflint yn cael eu hannog i gadw llygad am eu manylion cofrestru yn y post

Published: 09/08/2018

Fel rhan o ymgyrch canfasio cartrefi blynyddol Sir y Fflint, anfonwyd ffurflen i bob cartref yn y sir yn gofyn i’r preswylwyr wirio a yw'r wybodaeth sy'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol ar gyfer eu cyfeiriad nhw yn gywir. 

Mae’n rhaid i unrhyw un sydd eisiau pleidleisio fod wedi’u cofrestru, felly er mwyn sicrhau eich bod yn gallu bwrw eich pleidlais mewn etholiadau, cofiwch wirio'r ffurflen pan fydd yn cyrraedd.  Os nad yw eich manylion wedi newid gallwch ateb drwy alwad ffôn am ddim, ar y rhyngrwyd neu drwy neges testun. Os yw’r manylion wedi newid gallwch ddiweddaru’r wybodaeth yn www.registerbyinternet.com/flintshire neu fel arall gallwch bostio’r ffurflen yn ôl atom.  

Os nad ydych wedi cofrestru, byddwn yn anfon gwybodaeth yn esbonio sut i wneud hynny neu gallwch gyflwyno cais i gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/register-to-vote.

Meddai Colin Everett, Swyddog Cofrestru Etholiadol Sir y Fflint:

“Nod y canfasio blynyddol yw sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn gyfoes a chanfod preswylwyr nad ydynt wedi cofrestru er mwyn eu hannog i wneud hynny. 

“Mae’n bwysig bod pobl yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac nad ydynt yn colli allan am nad ydynt wedi cofrestru.  Ni ddylai pobl gymryd yn ganiataol y byddant yn gallu pleidleisio oherwydd eu bod wedi cofrestru ar gyfer pethau eraill megis Treth y Cyngor. 

Meddai Rhydian Thomas, Pennaeth Swyddfa Comisiwn Etholiadol Cymru:

“Mae’n hynod o bwysig bod pawb sydd â hawl i bleidleisio yn gallu gwneud hynny; gwirio’r ffurflen a fydd yn cyrraedd drwy’r post yw un o'r ffyrdd hawsaf o ddarganfod os ydych eisoes wedi'ch cofrestru.  Mae 'na lawer o wybodaeth ddefnyddiol am gofrestru i bleidleisio ar ein gwefanwww.yourvotematters.co.uk http://www.yourvotematters.co.uk .”

Gofynnir i breswylwyr ddychwelyd eu ffurflenni erbyn 10 Medi a gall unrhyw un sydd angen rhagor o gyngor neu gymorth cysylltu â'r Tîm Etholiadau ar 01352 702412 neu anfon e-bost at register@flintshire.gov.uk mailto:register@flintshire.gov.uk