Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau Safon Uwch

Published: 17/08/2018

 

Mae myfyrwyr chweched dosbarth yn ysgolion Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth i ddosbarthiadau 2018 dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch.  Mae canlyniadau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yn dangos bod 98.8% o’r rhai sydd wedi sefyll arholiadau CBAC wedi pasio gyda graddau A*-E.   Ffigwr Sir y Fflint yn 2017 ar yr un adeg oedd 97.8%.

 

76.5% yw cyfran y graddau A* i C yn 2018, o gymharu â chyfran o 72.7% yn derbyn yr un graddau yn Sir y Fflint yn 2017, gwelliant cadarnhaol.

 

Roedd 21.2% o ganlyniadau CBAC Sir y Fflint yn raddau A* ac A o’i gymharu ag 18.2% yn 2017.  Mae’r cynnydd hwn yn uwch na chynnydd cyfartalog Cymru ar gyfer A*-A eleni ac mae’n adlewyrchu’r gwaith caled yn ysgolion Sir y Fflint i ymestyn eu myfyrwyr mwyaf galluog i gyrraedd eu potensial.   

 

Mae’r rhan fwyaf o ymgeiswyr Lefel Uwch Sir y Fflint yn sefyll arholiadau CBAC ac fe fydd canlyniadau gan fyrddau eraill ar gael yn nes ymlaen heddiw. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg:

 

“Ar ôl cael y wybodaeth am y rhai a fu’n sefyll arholiadau Bwrdd Arholi CBAC, mae'r Cyngor yn llongyfarch yr holl fyfyrwyr yn wresog am eu gwaith caled a'u llwyddiant. Wrth i ni ddathlu’r canlyniadau hynny, rydyn ni’n cydnabod ymrwymiad a chefnogaeth broffesiynol ein hysgolion a’n hathrawon wrth baratoi eu myfyrwyr ar gyfer eu harholiadau a hefyd am y gefnogaeth gan eu rhieni a’u gofalwyr dros y blynyddoedd.  Rwy’n arbennig o falch gyda’r cynnydd cadarnhaol yn nifer y graddau A* ac A a ddyfarnwyd a hefyd A*-C.

 

Mae myfyrwyr Sir y Fflint wedi gweithio'n galed i ddilyn rhaglenni astudio heriol.  Rwy’n falch iawn dros bob un ohonyn nhw ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar y llwybrau maen nhw wedi'u dewis ar gyfer y dyfodol."

 

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

 

“Mae’r canlyniadau boddhaol iawn hyn yn benllanw cadarnhaol blynyddoedd o waith caled a wnaed gan fyfyrwyr Sir y Fflint a sgil ac ymroddiad eu staff yn eu paratoi ar gyfer eu harholiadau.

 

Rwyf wrth fy modd yn llongyfarch pob un ohonyn nhw ac yn diolch i'w hathrawon, eu rhieni a'u gofalwyr am eu hanogaeth a'u cefnogaeth. Mae’r canlyniadau’n newyddion da i bobl ifanc Sir y Fflint ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth wynebu heriau newydd, boed hynny yn y coleg, yn y brifysgol neu ym myd gwaith.”

 

 NODYN I OLYGYDDION

Ar adeg ei chyhoeddi, mae’r wybodaeth a roddir yn seiliedig ar wybodaeth Bwrdd CBAC yn unig.  Rydym yn aros am fanylion gan ysgolion ynglyn â’r darlun cyffredinol unwaith y bydd data byrddau arholi Lloegr (nad yw ar gael yn ganolog i Awdurdodau Lleol Cymru) wedi ei brosesu.