Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolwg o sigaréts electronig

Published: 15/04/2014

Cynhaliwyd arolwg o ddiogelwch sigaréts electronig yn ddiweddar gan Safonau Masnach Gogledd Cymru ac wedi datgelu rhai canlyniadau sy’n peri pryder. Prynwyd deuddeg addaswr a deg sigarét electronig mewn gwahanol rannau o’r chwe awdurdod, a Sir y Fflint, sef yr awdurdod arweiniol, fu’n coladu’r canlyniadau. Dangosodd y canlyniadau fod pob un yn methu’r rheoliadau diogelwch. Nid oedd nifer sylweddol o’r addaswyr yn cydymffurfio â’r gofynion diogelwch trydanol ac nid oedd digon o gyfarwyddiadau na marciau ynghlwm wrth wrth y sigaréts electronig, ac nid oedd sicrwydd y byddai defnyddwyr yn gwybod sut i’w gwefru’n ddiogel. Bydd pob awdurdod lleol yn cymryd camau ychwanegol yn gysylltiedig â’r mater hwn ac i sicrhau nad yw rhagor o’r teclynnau anniogel a nodwyd yn yr arolwg yn cael eu gwerthu. Mae’r gwasanaethau Safonau Masnach yn cynghori defnyddwyr sy’n prynu sigaréts electronig i sicrhau bod cyfarwyddiadau diogelwch digonol wedi’u cynnwys ac i sicrhau eu bod yn eu dilyn wrth wefru’r sigaréts, i gadw llygad arnynt pan fyddant yn gwefru ac i beidio â gwneud hynny dros nos, ac i sicrhau hefyd fod yr addaswr yn addas ar gyfer nodweddion trydanol y cynnyrch. Os oes unrhyw un yn pryderu am ddiogelwch sigaréts electonig, dylent gysylltu â’u gwasanaeth Safonau Masnach lleol drwy ffonio llinell gymorth Cyngor ar Bopeth, sef 08454 040506 (Saesneg) neu 08454 040505 (Cymraeg) Llun: Staff o Safonau Masnach Gogledd Cymru yn profi sigaréts electronig. Nodiadau i’r Golygyddion Mae nifer o achosion ledled y DU o sigaréts electronig yn mynd ar dân tra oeddent yn cael eu gwefru. Bu’n rhaid galw’r gwasanaethu tân mewn nifer o achosion. Mae’r sigaréts hyn yn ddyfeisiau cymharol newydd ar y farchnad a does dim digon o wybodaeth am ddiogelwch yn cael eu cynnwys bob tro. Mae arbenigwyr yn dweud nad yw’r dyfeisiau’n diffodd ar ôl eu gwefru’n llawn ac y gall hyn beri iddynt orboethi.