Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Llwyddiant yng Ngemau Trawsblaniadau

Published: 10/09/2018

2018-CH-0030-JS.jpgCroesawodd Gadeirydd Cyngor Sir Y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham athletwr lleol i Neuadd y Sir yn ddiweddar. 

Cafodd Daniel Richardson o Northop Hall drawsblaniad aren ddwy flynedd yn ôl.  Bu’n ddifrifol wael y llynedd a chafodd ei roi mewn coma am y tri mis olaf, yn brwydro niwmonia. Er gwaethaf hynny, roedd yn ddigon iach i gymryd rhan mewn sawl digwyddiad yng Ngemau Trawsblaniadau Prydain a gynhaliwyd ym Mirmingham fis Awst ac fe enillodd fedal aur yng nghystadleuaeth bowls dan do. 

Dywedodd y Cynghorydd Cunningham:

“Mae hyn yn gyflawniad aruthrol ac mae’n destun pleser a balchder i mi gyflwyno ein Gwobr i Daniel yn ystod Wythnos Rhoi Organau”.  

Yn y llun, mae Daniel yn gwisgo ei fedal ac yn derbyn plac Sir y Fflint gan Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Paul Cunningham a’i Gymar Mrs Joan Cunningham, gyda’i fam Ann, ei frawd Patrick a’i dad Martin Richardson.