Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn paratoi am ddiffibrilwyr

Published: 13/09/2018

defibrillator training at FCC.jpgGyda dros 8000 o ataliadau ar y galon yn digwydd y tu allan i ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn, mae diffibrilwyr yn ddarnau hanfodol o offer i achub bywydau. 

Mae 1251 o ddiffibrilwyr wedi cael eu gosod gan Welsh Hearts mewn cymunedau ar draws Cymru hyd yn hyn. 

Mae Cyngor Sir y Fflint, ar y cyd â Welsh Hearts, yn gosod tri diffibriliwr newydd yn swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint yn Alltami, yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug, ac yn Nhy Unity yn Ewlo, ac mae hyfforddiant a sesiwn ymwybyddiaeth yn cael ei gynnig i weithwyr y Cyngor. 

Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett oedd un o’r cyntaf i gael yr hyfforddiant, a dywedodd: 

 “Bydd yr hyfforddiant yma’n ymestyn gwybodaeth a hyder ein gweithlu i ymateb heb oedi mewn argyfwng, naill yn y gwaith neu du allan i’r gwaith.  Mae’n cynnwys sgiliau hanfodol mewn argyfwng a sgiliau achub bywyd, gan gynnwys hyfforddiant ar sut i ddefnyddio diffibriliwr yn ddiogel – fe allai’r wybodaeth a’r weithred achub bywyd.”

Mae diffibriliwr eisoes wedi cael ei osod yn Llyfrgell y Fflint, gyferbyn â Swyddfeydd y Sir, y Fflint.    

I ddysgu mwy am Welsh Hearts, a’u gwaith yn helpu i achub bywydau, ewch i www.welshhearts.org.