Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cau Ffordd Dros Nos – A548 Ffordd Caer o Gyfnewidfa Kelsterton i Papermill Lane

Published: 17/09/2018

Fel rhan o brosiect newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Rockcliffe, mae angen rhoi wyneb newydd ar ran o’r A548 a gosod cysylltiadau arwyddion traffig newydd. Er mwyn gwneud y gwaith bydd yn rhaid cau’r ffyrdd canlynol:

Ffordd ddeuol tua’r dwyrain a’r gorllewin ar yr A548, rhwng ei chyffordd â Paper Mill Lane a Chyfnewidfa Kelsterton.

Nos Wener 21 Medi – 20.00 tan 05.00

Nos Lun 24 Medi – 20.00 tan 05.00

Nos Fawrth 25 Medi – 20.00 tan 05.00

Bydd arwyddion penodol yn cael eu gosod i ddangos y ffordd arall. Bydd modd cael mynediad i eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Bydd mynediad yn cael ei ganiatáu i gerddwyr drwy gydol y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.

Mae Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr Alun Griffiths Ltd yn ymddiheuro am unrhyw oedi ac anghyfleustra a achosir o ganlyniad i gau’r ffordd.