Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Agored y Rhyfel Byd Cyntaf

Published: 25/07/2014

Ymunwch ag Archifdy Sir y Fflint yn niwrnod agored y Rhyfel Byd Cyntaf ddydd Sadwrn 2 Awst rhwng 10am a 2 pm. Mae mynediad am ddim i’r digwyddiad ar Lôn y Rheithordy, Penarlâg ac mae croeso i bawb. Bydd yr uchafbwyntiau’n cynnwys gweithdy ‘Hel Achau’ y Rhyfel Byd Cyntaf, sgwrs gan Viv ac Eifion Williams o Flintshire War Memorials a chyfle i weld rhai o’r dogfennau gwreiddiol yng nghasgliadau’r archifdy gan gynnwys llythyrau, ffotograffau, medalau, cardiau mynegai’r Rhyfel Byd Cyntaf a phlac marwolaeth. Bydd byrddau arddangos amrywiol i’w gweld gan gynnwys ‘hysbysebu yn y wasg leol yn ystod cyfnod y rhyfel’, teyrngedau personol i ddynion o Sir y Fflint a fu’n ymladd yn y Rhyfel ac arddangosfa gan fyfyrwyr Ysgol Maes Garmon wedi iddynt fod yn yr Archifdy yn ymchwilio. Bydd gweithgareddau i blant a lluniaeth hefyd. Y llynedd, cynhyrchodd yr Archifdy galendr Rhyfel Byd Cyntaf a chyfrannwyd 50c o bris pob un at Apêl Pabi Coch y Lleng Brydeinig. Bydd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, yn cyflwyno siec ar y diwrnod i Ysgrifennydd Cangen Penarlâg/Ewlo/Mancot o’r Lleng Brydeinig, Mrs Joan Aird. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton: “Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r siec hon i’r Lleng Brydeinig i gefnogi eu gwaith elusennol. Hoffwn ddiolch i’r Archifdy am gynnal y digwyddiad hwn, sy’n deyrnged i’r gwyr o Sir y Fflint a fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac i’r rhai a fu farw i sicrhau’n bod ni i gyd heddiw yn byw yn rhydd.” Meddai Claire Harrington, Prif Archifydd yr Archifdy: “Rydym yn falch o fod yn rhan o’r digwyddiadau i roi teyrnged i’n Lluoedd Arfog. Mae nifer o gofnodion o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn yr Archifdy ac maent ar gael i genedlaethau’r dyfodol eu gweld.”