Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bryn y Beili - Cytundeb Rheoli Teiran a’r Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect

Published: 25/09/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref Yr Wyddgrug a Chyfeillion Grwp Bryn y Beili a bu’n llwyddiannus gyda chais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn gynharach eleni. 

Mae’r prosiect cyffrous hwn bellach yn barod i ddechrau a gofynnir i aelodau'r Cabinet roi awdurdod ar gyfer cytundeb grant gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri am £963,700, er mwyn dechrau ar y prosiect.    Hefyd, gofynnir iddynt gytuno ar gytundeb cyfreithiol ar gyfer datblygu a rheoli Bryn y Beili gyda Chyngor Tref Yr Wyddgrug a Chyfeillion Bryn y Beili.

Mae Bryn y Beili’n brosiect arwyddocaol i wella amgylchedd treftadaeth y castell tomen a beili ym Mryn y Beili yn Yr Wyddgrug. Mae hyn yn cynnwys ailddylunio mynedfa, gwella mynediad, ardal chwarae newydd, dehongliad o’r safle cyfan ac ailddatblygu Bwthyn Ceidwaid yn ofod cymunedol amlbwrpas.

Cyfanswm cost y prosiect, gan gynnwys cyllid partneriaeth ac arian cyfatebol yw £1,301,970, y mwyafrif wedi’i dderbyn.  Gan fod rhai ceisiadau am arian yn parhau’n weddill, mae pob partner yn hyderus y cyflawnir unrhyw ddiffyg dros 3 blynedd y prosiect. 

Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Bydd y prosiect cyffrous hwn a ariannwyd drwy grant yn gweld Bryn y Beili yn cael ei adfer a'i hybu i wneud y mwyaf o'i leoliad arbennig fel man geni'r Wyddgrug.  Mae’n ardal lle gall pobl fwynhau’r amgylchedd naturiol sydd mor bwysig yng nghanol trefi. Bydd mynediad gwell i’r ardal gan ei agor i fyny i mwy o bobl.  Mae’r cytundeb rheoli yn gytundeb cyfreithiol safonol rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref yr Wyddgrug a Chyfeillion Bryn y Beili.   Bydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau'n berchen ar y safle.”