Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pabïau Coffa

Published: 28/07/2014

Mae Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Sir y Fflint yn annog trigolion i blannu hadau pabi ym mhob cwr o Sir y Fflint i nodi 100 mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r blodau’n rhan o Ymgyrch Pabi Canmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol, a’r nod yw gorchuddio’r DU a phabïau er cof am y rheiny a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ymgyrch genedlaethol yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â’r manwerthwr B&Q a bydd y Llynges yn gofyn i’r cyhoedd ac awdurdodau lleol i brynu hadau pabi Flanders a’u plannu ar eu tir. Bydd pob ysgol yn y DU hefyd yn derbyn pecyn o hadau pabi am ddim fel rhan o fenter addysgol gan y Lleng Brydeinig Frenhinol er mwyn ceisio helpu pobl ifanc i ddeall effaith y brwydro. Telir am y rhan hon o’r prosiect gan grant o £100,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn Sir y Fflint: “Mae Ymgyrch y Pabi yn ffordd bwysig o gael Sir y Fflint gyfan i ymuno gyda’i gilydd i gofio’r rheiny a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. “Rwy’n gwahodd pawb yn y Sir i blannu hadau pabi eu hunain a nodi’r canmlwyddiant.”