Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llofnodi trawst yn Ysgol Penyffordd

Published: 05/10/2018

Mae’r rhaglen foderneiddio ar gyfer Ysgol newydd sbon Penyffordd yn parhau i gasglu momentwm. 

Dathlwyd hyn yn ddiweddar mewn digwyddiad “llofnodi’r trawst” lle'r oedd cynghorwyr, swyddogion a chynrychiolwyr y contractwr lleol, Wynne Construction a leolir ym Modelwyddan ar safle ysgol gynradd yr 21ain ganrif.

Mae’r gwaith yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg gan Lywodraeth Cymru ac yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg 6ed Dosbarth Glannau Dyfrdwy a gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i foderneiddio a gwella Ysgol Uwchradd Cei Connah.

Bydd yr ysgol newydd bwrpasol hon yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 3 – 11 oed ar safle Abbotts Lane ac yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer 315 o ddisgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2 yn ogystal â neuadd a stiwdio.  Bydd y cae a’r ardaloedd chwaraeon yn cael eu cadw.   

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Dyma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint.  Bydd y buddsoddiad o bron i £7 miliwn yn darparu cyfleuster modern bendigedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach a bydd yn cynnig profiad dysgu newydd, llawn ysbrydoliaeth i blant ysgolion cynradd.”

Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction:

“Rydym yn falch o groesawu’r disgyblion, athrawon a rhanddeiliaid allweddol i’r safle heddiw ac iddynt fod yn rhan o garreg filltir allweddol o adeilad yr ysgol newydd.    Mae gwaith yn datblygu’n dda ac rydym yn edrych ymlaen at drefnu mwy o ymweliadau i’r disgyblion, i weld eu hystafelloedd dosbarth newydd a hefyd i ddangos sut mae’r ysgol wedi’i hadeiladu a beth fydd yn rhan o’r gwaith cwblhau’r prosiect."

 ywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg:

“Rwy’n falch o glywed fod y gwaith a wnaed yn Ysgol Penyffordd wedi cyrraedd y garreg filltir allweddol hon.

“Drwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg rydym yn buddsoddi naill ochr i awdurdodau lleol i greu adeiladau sydd wedi eu dylunio’n dda, yn ddiogel ac yn effeithlon o ran ynni, sy’n diwallu anghenion dysgwyr, athrawon a’r gymuned ehangach ac sydd wir yn briodol ar gyfer yr 21ain Ganrif.”

“Bydd y datblygiadau yn Ysgol Penyffordd yn dod â disgyblion oedran babanod ac iau o dan un to. Bydd hyn yn caniatáu i ddisgyblion ddysgu mewn amgylchedd gyda staff addysgu ac ystafelloedd dosbarth cyfarwydd, a’r holl fudd y daw’r cysondeb hwn i’w profiad dysgu.”

   

Penyffordd 06.jpg                  Penyffordd 04.jpg