Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi rhagor o welliannau i ysgolion Sir y Fflint

Published: 05/10/2018

Castell Alun 01.jpg

Mae’n bleser gan Gyngor Sir y Fflint gyhoeddi fod gwaith yn dechrau mewn ysgol leol arall, yn syth ar ôl y cyhoeddiad fod arian cyfalaf wedi ei ddiogelu ar gyfer Ysgol Glan Aber. 

Er gwaethaf cynni parhaus, mae’r Cyngor yn cydnabod yr angen i fuddsoddi’n gyson yn ein hysgolion i sicrhau profiad dysgu cadarnhaol i’n pobl ifanc.  Sicrhawyd buddsoddiad ar gyfer Ysgol Uwchradd Castell Alun.  

Mae Cyngor Sir y Fflint yn buddsoddi £5m o’i raglen gyfalaf yn Ysgol Uwchradd Castell Alun ar gyfer bloc dysgu newydd Celf a Dylunio a darpariaeth fewnol wedi ei ailfodelu.  Bydd y gwaith hwn yn creu gofod dysgu newydd a fydd yn ysbrydoli myfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd yn ogystal â darparu cyflogaeth a chyfleoedd dysgu ar gyfer ein cymuned.

Mae’r Cyngor wedi penodi Willmott Dixon i wneud y gwaith gwella yn Ysgol Uwchradd Castell Alun.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r buddsoddiad pellach yn ein hysgolion yn dangos fod Cyngor Sir y Fflint, er ei fod yn gyngor cyllid isel, yn gallu diogelu arian i wella a diweddaru ein hysgolion.  Bydd y gwelliannau hyn yn cynnig profiad dysgu newydd a chyffrous i’n disgyblion.”

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau Gogleddol Willmott Dixon, Alistair Brymer:

“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw creu adeiladau sy’n ysbrydoli plant ac athrawon i gyrraedd yr uchelfannau o ran cyrhaeddiad addysgol. Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ein dewis fel contractwr ac gyfer y prosiect cyffrous hwn, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, Ysgol Uwchradd Castell Alun a'r gymuned leol i ddarparu prosiect rhagorol.

“Rydym yn credu mewn darparu prosiectau sy’n gadael gwaddol gymunedol barhaol sy’n fwy na brics a morter. 

“Rydym wedi derbyn Gwobr y Frenhines am Fenter yn y categori Hyrwyddo Cyfleoedd eleni. Mae gweithio gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi leol lle bo modd yn ffordd arbennig o bwysig o gefnogi’r gymuned ac rydym wedi ymrwymo i greu cyflogaeth leol, prentisiaethau a chyfleoedd profiad gwaith.”