Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ffair Llys Eleanor
Published: 28/07/2014
Mae tenantiaid Llys Eleanor, y cynllun Gofal Ychwanegol yn Shotton, yn cynnal
eu Ffair Haf flynyddol gan gynnwys sioe gwn hwyliog ddydd Sadwrn 9 Awst.
Rheolir Llys Eleanor ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Chymdeithas Tai Clwyd
Alyn, sef rhan o Grwp Tai Pennaf.
Mae’r tenantiaid yn cydgysylltu a rhedeg y digwyddiad gyda chymorth eu
teuluoedd a’u ffrindiau. Bydd y ffair a’r sioe gwn yn dechrau yn Llys Eleanor,
Shotton Lane yng Nglannau Dyfrdwy am 3pm a bydd arddangosfa dawnsio Salsa yn
cael ei chynnal am 3.30pm. Codir £1 am gystadlu yn y sioe gwn ac mae 10
categori gan gynnwys y ci â’r gynffon sy’n ysgwyd fwyaf, y ci delaf, gwisg
ffansi a’r ci gorau yn sioe.
Bydd yno reidiau ceffyl a cherbyd, tylluanod Moonshine, digonedd o stondinau,
peintio wynebau, tombola a raffl a lluniaeth.
Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae gan Lys Eleanor ysbryd cymunedol a
amlygir bob blwyddyn yn y ffair haf. Byddwn yn annog unrhyw un sydd yn yr
ardal ddydd Sadwrn i ddod draw i gefnogi’r trigolion a mwynhau’r diwrnod.”
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Llys Eleanor ar 01244 816357.