Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Newydd yn Agor

Published: 08/10/2018

Recycling Centre 02.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn o gyhoeddi fod y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn Rockcliffe wedi’i hagor yn swyddogol.

Mae’r safle newydd wedi’i ddylunio mewn ffordd sy’n golygu nad oes angen grisiau a phlatfformau i ddefnyddio’r gwahanol ardaloedd ailgylchu. Fel rhan o’r cynllun hefyd mae cyffordd â signalau wedi’i gosod ar yr A548 er mwyn gwella mynediad i’r safle.

Recycling Centre 03.jpg

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae’r datblygiad newydd yn Rockcliffe yn cwblhau rhaglen o uwchraddio canolfannau ailgylchu canolfannau gwastraff y Sir a’u codi i safonau modern. Bu modd gwneud hyn diolch i arian grant gan Lywodraeth Cymru.

“Bydd y datblygiad newydd hwn yn helpu i wella ein ffigyrau ailgylchu eto fyth, gyda’r fantais ychwanegol bod y ganolfan newydd yn un sy’n hawdd i bobl fynd iddi ac i’w defnyddio.”