Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefnu priodas?  Dewiswch Sir y Fflint a dewch i gael golwg ar Llwynegrin ...

Published: 10/10/2018

1819-13609 Llwynegrin Hall Open Day Invites Welsh - final.jpgMae Plas Llwynegrin yn eiddo rhestredig syfrdanol ac yn lleoliad delfrydol ar gyfer eich priodas yn Sir y Fflint. Ddydd Sul 28 Hydref 2018, byddwn yn agor drysau Llwynegrin i'w arddangos fel lleoliad ardderchog ar gyfer priodasau.

Adeiladwyd y Plas godidog hwn gan Thomas Jones, oedd yn bensaer lleol ac yn syrfëwr sirol, ac fe’i cwblhawyd yn 1830.  Cartref gwledig tawel ydoedd tan 1948 pan brynwyd y Plas a’r tir o’i amgylch gan Gyngor Sir y Fflint.  Mae’r Plas wedi cadw naws cartref teuluol ac mae’n cynnig cyfoeth o nodweddion y cyfnod, sy’n ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer pob achlysur.

Mae’r Plas wedi’i leoli ychydig o gamau yn unig oddi wrth Theatr Clwyd, lle bydd ffair briodasau fwyaf Sir y Fflint yn cael ei chynnal ar yr un diwrnod.

Bydd y Plas ar agor rhwng 11am a 3pm, a gall ymwelwyr ddisgwyl stondinau gan gyflenwyr nwyddau priodasau a gwybodaeth am yr holl westai sydd wedi’u trwyddedu i gynnal priodasau yn Sir y Fflint.  

Dewch i weld yr ystafell seremonïau fendigedig a chael cyngor arbenigol gan y tîm cofrestru. Bydd Taith Briodasol yn cael ei chynnal am hanner dydd ac am 1.30pm, fydd yn eich arwain o’r Theatr i’r Plas.

Yn ogystal â phriodasau, mae Plas Llwynegrin yn cynnig seremonïau enwi ac Adnewyddu Addunedau Priodas ac yn cynnig gwasanaethau seremonïau dinasyddiaeth a chofrestru digwyddiadau bywyd.

Mae’r digwyddiad unigryw hwn, y cyntaf o'i fath yn Llwynegrin, ar agor i bawb, felly os ydych chi awydd gweld y tu mewn i'r adeilad hanesyddol anhygoel hwn neu eisiau dysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael, mae croeso cynnes i chi oll.  

I gael rhagor o fanylion, ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 neu anfonwch neges e-bost i Registrars@flintshire.gov.uk.