Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cau Pont Sir y Fflint 5 - 9 Mehefin 2023 

Published: 19/05/2023

Flintshire+Bridge+'Closed'+graphic Twitter.jpgEr mwyn caniatau ar gyfer gwaith hanfodol, bydd Pont Sir y Fflint ynghau i’r ddau gyfeiriad, rhwng 8am a 6pm am bump diwrnod yn dechrau ar ddydd Llun, 5 Mehefin ac yn dod i ben ar ddydd Gwener, 9 Mehefin 2023.   

Bydd traffig sy’n teithio tua’r gorllewin yn cael ei ddargyfeirio yng Ngham 4 Cylchfan Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a thraffig tua’r dwyrain o ffordd ymadael Ffordd Kelsterton.  

Bydd llwybrau amgen yn cynnwys arwyddion clir yn ystod y cyfnod cau. 

A fyddech cystal â chynllunio eich siwrnai ymlaen llaw i osgoi oedi diangen.