Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dewch allan i’r awyr agored yr haf hwn gyda Gwasanaeth Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol Sir y Fflint 

Published: 02/06/2023

Flora walk.jpgMae’r tîm gwybodus yn eich gwahodd chi i ymuno â nhw ar gyfer digwyddiadau haf hwyliog a diddorol. Boed yng Nghefn Gwlad neu ar yr Arfordir, mae’r rhan fwyaf ohonynt ar gael yn rhad ac am ddim i’w mwynhau.  

Bydd digwyddiadau mis Mehefin yn gwneud y mwyaf o Arfordir Sir y Fflint, gyda ‘Thaith Aber Afon Dyfrdwy’ ar 6 Mehefin, taith gerdded hamddenol ar Aber Afon Dyfrdwy gyda Cheidwad yr Arfordir.  Caiff ‘Taith ar Olwynion’ y Fflint ei hyrwyddo ar gyfer unigolion sy’n llai abl ac yn defnyddio cadair olwyn drydan. Bydd ein gwirfoddolwr lleol yn dangos y safleoedd a’r llwybrau hygyrch i chi.   Ymunwch â’n Hecolegydd a’n Ceidwad lawr yn Nhalacre i ddysgu am yr hyn sy’n tyfu ar ac o gwmpas y twyni ar 7 Mehefin. 

Ymhellach i mewn i’r tir, dewch o hyd i Barc Etna, Bwcle, ddydd Sul 18 Mehefin, gyda’n Ceidwad gwybodus ar lwybr cyffrous ac addysgiadol.  

Mae Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas  yn cynnal eu digwyddiad cerddoriaeth awyr agored ‘Dyffryn Byw’ ar 24 Mehefin. Maent yn ymfalchïo yn eu harlwy amrywiol a’r gweithgareddau hwyliog sydd ar gael i bawb eu mwynhau.  

Yn ogystal ag Antur yr Afon a’n Taith Gerdded Ystlumod flynyddol ym mis Awst ym Mharc Gwepra, rydym hefyd yn croesawu Illyria yn ôl. Bydd y cwmni arobryn yn cyflwyno ‘Robin Hood’, lladrad llawn antur i’r teulu cyfan, ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf.   

Dywedodd y Cyng. David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: 

“Dyma gyfle gwych i’r gymuned ddysgu mwy am ein mannau naturiol a mwynhau digwyddiadau gyda’n gilydd a gyda’n tîm gwybodus. Mae yna amrywiaeth ddiddorol yr haf hwn, rhywbeth i bawb, rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan a gweld rhywfaint o luniau o’r digwyddiadau wedyn.”     

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy:

 

 Wepre Park - children on a bridge.jpg