Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol 2023

Published: 05/06/2023

 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn adolygu ei strategaeth toiledau lleol ar hyn o bryd ac yn asesu angen cymunedau ar gyfer darpariaeth toiledau hygyrch yn Sir y Fflint.

Nid yw darparu toiledau cyhoeddus yn ddyletswydd statudol, ond mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau toiled i drigolion, ymwelwyr a’r economi.

Wedi ei chyhoeddi yn 2019, nod strategaeth toiledau lleol Sir y Fflint oedd asesu ansawdd a nifer y toiledau lleol ledled y sir a darparu toiledau glân, diogel, hygyrch a chynaliadwy i drigolion ac ymwelwyr y Sir. Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i asesu angen y gymuned ar gyfer darparu toiledau hygyrch o fewn y Sir.

Gwahoddir trigolion Sir y Fflint i wneud sylw ar y strategaeth sy’n manylu ar ddarpariaeth toiledau cyhoeddus ledled y sir.  Bydd hyn o gymorth i adolygu, asesu’r ddarpariaeth gyfredol ac adnabod yr angen ar draws y sir.

Gallwch wneud sylw ar Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol 2023 ar-lein yn: https://www.smartsurvey.co.uk/s/Toiledau-Toilets2023

Dylid ymateb erbyn 26 Mehefin 2023.

Bydd ymatebion yn cael eu hystyried gan Gabinet y Cyngor cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y strategaeth.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Local-Toilet-Strategy-for-Flintshire.aspx