Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar y Diwygiad Lles

Published: 19/10/2018

Bydd Cabinet Cyngor Sir Y Fflint yn cael eu holi i gefnogi’r gwaith sy’n mynd rhagddo i reoli effeithiau’r diwygiad lles ar aelwydydd mwyaf agored i niwed Sir y Fflint yn ei gyfarfod nesaf ar 23 Hydref.

Bydd aelodau Cabinet hefyd yn cael eu holi i nodi’r newidiadau i drefniadau cyllido grant ar gyfer Credyd Cynhwysol fel y cyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar.

Mae ‘Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill wedi cael effaith anferth ar aelwydydd agored i niwed ar draws y DU a dydy Sir y Fflint ddim yn eithriad.  Ers 2012, mae’r Cyngor, yn ogystal â’i bartneriaid, wedi gweithio i gynorthwyo’n trigolion mwyaf agored i niwed drwy’r diwygiadau a lliniaru effeithiau llawn y diwygiadau hyn. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint:

“Dydy hon ddim yn dasg hawdd ond mae Cyngor Sir Y Fflint wedi ceisio mynd i’r afael â hi.  Rydym yn pryderu am yr effaith ar ein trigolion mwyaf agored i niwed ac felly rydym wedi comisiynu adroddiad i ddarparu asesiad o effaith diwygio'r gyfundrefn les. 

“Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i dargedu cartrefi lle mae angen cymorth er mwyn helpu i liniaru’r effeithiau, ac i'w helpu i baratoi rwan ar gyfer newidiadau yn y dyfodol.”

Mae Sir y Fflint yn gweithio mewn sawl maes er mwyn cynorthwyo a gwella’r sefyllfa i lawer o drigolion sy’n cael eu heffeithio gan y diwygiad lles.  Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Targedu cymorth ar gyfer y rheiny sydd allan o waith i wella eu hopsiynau o ran cael gwaith.
  • Paru teuluoedd gyda hawliau prydau ysgol am ddim posib.
  • Yn 2016, cafodd terfyn uchaf yr uchafswm budd-daliadau ei ostwng yn sylweddol  Mae 85 o aelwydydd a effeithiwyd gan hyn wedi cael help gyda thaliadau dewisol tai.  Mae cyngor cyllido personol hefyd ar gael i’w helpu i reoli eu harian.
  • Fis Mehefin 2018, roedd 811 o aelwydydd yn Sir y Fflint wedi eu heffeithio gan y cymhorthdal ystafell sbâr, sef y “treth ystafelloedd gwely”.  Mae’r aelwydydd hyn wedi eu cefnogi gan y Cyngor, sydd wedi ceisio lliniaru effaith llawn y gostyngiad yn eu Budd-Dal Tai.  Yn 2017-18, dyfarnwyd bron i £59,000 i denantiaid drwy ddyfarniadau yn ôl disgresiwn.
  • Rydym wedi gweld cynnydd yn llwyth achosion Credyd Cynhwysol Sir y Fflint o 828 ym Mehefin 2017 i 3,623 ym Mehefin 2018. Darparwyd cefnogaeth â  chymorth digidol i fwy na 2,750 o gwsmeriaid Credyd Cynhwysol yn ystod y cyfnod hwn.
  • Mae cymorth cyllido personol wedi ei roi i dros 300 o gwsmeriaid Credyd Cynhwysol.  Cyflwynwyd sesiynau ychwanegol er mwyn ateb y galw ar gyfer y cyngor hwn.

 Aeth y Cynghorydd Mullin ymlaen:

“Mae ymateb Sir y Fflint i weithredu’r Credyd Cynhwysol wedi ei weld fel model arfer da gan Awdurdodau Lleol eraill Cymru a Llywodraeth Cymru ac mae’n Adran Budd-daliadau wedi bod yn darparu cymorth i Awdurdodau Lleol eraill Cymru cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno yn eu hardal nhw.  Mae hyn yn dangos ein gofal a’n cefnogaeth fel Cyngor tuag at ein haelwydydd mwyaf agored i niwed.”

Ar 1 Hydref eleni, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau na fyddant o 1 Ebrill 2019 yn cyllido Awdurdodau Lleol er mwyn darparu’r gefnogaeth digidol â chymorth cyllido personol a sonnir amdano uchod.  Yn hytrach bydd yn cyllido Cyngor Ar Bopeth i ddarparu’r gwasanaeth hwn.  Gan fod y cyhoeddiad hwn wedi dod heb unrhyw ymgynghoriad o flaen llaw, mae goblygiadau hyn ar gyfer Sir y Fflint yn cael eu paratoi a bydd manylion pellach yn cael eu rhoi gerbron y Cabinet mor fuan â phosib.