Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Caeau Canmlwyddiant

Published: 22/10/2018

Bydd gofyn i Aelodau Cabinet Sir y Fflint gytuno ar gyflwyno cais i Feysydd Chwarae Cymru i ddynodi pedwar safle yn Sir y Fflint yn Gaeau Canmlwyddiant.

Bydd gofyn i’r Cabinet hefyd awdurdodi i’r Weithred Gyflwyno gyda Meysydd Chwarae Cymru gael ei llofnodi ar ran y Cyngor, os yw’r ymgeiswyr yn llwyddiannus, a chytuno ar ystod o ddigwyddiadau i gael eu cynnal i nodi’r achlysur o ddynodi safleoedd yn Gaeau Canmlwyddiant.

Y safleoedd dan sylw yw:

  • Y lawnt gyferbyn ag Ysgol Croes Atti, y Fflint
  • Gerddi Coffa Treffynnon
  • Gardd Goffa Coed-llai
  • Parc Willows, yr Hôb

Mae Caeau Canmlwyddiant yn fenter gan Feysydd Chwarae Cymru, mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig, i warchod ac amddiffyn mannau agored gwerthfawr sydd â rhywfaint o arwyddocâd i'r Rhyfel Mawr, er cof am y rhai fu farw. Mae’r rhaglen yn un o nifer o fentrau i goffáu can mlynedd ers diwedd y Rhyfel.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Sir y Fflint:

“Bydd Gweithred Gyflwyno gyfreithiol rhwng Cyngor Sir y Fflint a Meysydd Chware Cymru’n golygu y bydd y safleoedd sy'n cael eu dynodi'n Gaeau Canmlwyddiant yn cael eu gwarchod am byth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd dynodi safleoedd yn Gaeau Canmlwyddiant yn ategu ymrwymiad y Cyngor i Gyfamod y Lluoedd Arfog ac yn diogelu mannau gwyrdd er budd y gymuned leol.

Daw’r cyflwyniad hwn ar ôl cais llwyddiannus gan Gyngor Tref Bwcle i Erddi’r Coroni gael eu dynodi’n Gae Canmlwyddiant.”

Y dyddiad olaf y gellid cyflwyno ceisiadau ar gyfer Caeau Canmlwyddiant i Feysydd Chwarae Cymru yw 11 Tachwedd 2018. Rhaid cwblhau pob Gweithred Gyflwyno erbyn Mai 2019.