Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog yn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Newydd

Published: 29/10/2018

Bu Gweinidog dros yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn AC, yn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd yn Oakenholt yn ddiweddar.

Mae’r safle newydd yn dilyn dyluniad sydd wedi'i rannu'n sawl lefel, a fydd yn cael gwared â grisiau a phlatfformau i gael mynediad at sawl man ailgylchu.  Bydd y rhaglen yn cynnwys cyffordd ddiwygiedig gydag arwyddion ar yr A548 hefyd i wella mynediad i'r safle.  

Mae’r safle yn gweithio mewn partneriaeth gyda Refurbs Sir y Fflint i gynnig cyfleoedd ‘ailddefnyddio’ ar gyfer dodrefn.  Mae Refurbs hefyd yn tynnu dodrefn yn ddarnau ar y safle, a’u trefnu yn ôl eu darnau megis metel, pren a thecstilau i wneud y mwyaf o ailgylchu.

Mae’r ganolfan wedi bod yn weithredol ers 1 Hydref ac wedi’i groesawu gan breswylwyr lleol sydd eisoes wedi ymweld â’r cyfleuster newydd.   Mae swyddogion y Cyngor wrth law i’w cynorthwyo i ddidoli’r eitemau sydd ganddynt er mwyn eu rhoi yn y cynwysyddion cywir a gwneud y mwyaf o’r cyfle i ailgylchu.

Mae’r safle yn ffurfio rhan derfynol y rhaglen ailddatblygu ar gyfer gwelliannau i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar draws Sir y Fflint.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd:

“Mae preswylwyr Sir y Fflint eisoes yn ailgylchu dros 67% o’u gwastraff, sydd ymhell uwchlaw ein targed cenedlaethol eleni o 58%.  Rwy’n falch iawn o weld y Ganolfan Ailgylchu, a fydd yn gymorth i ailgylchu mwy o wastraff y cartref.  

“Rwyf hefyd yn falch o weld fod gan y ganolfan systemau ar waith i ailddefnyddio deunyddiau lle bo modd, gan mai ailddefnyddio yw’r dull gorau o leihau gwastraff.  Mae hyn oll yn gymorth i gyflawni ein nod hirdymor o wneud Cymru yn ‘genedl heb wastraff’.

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Bydd y datblygiad newydd yn Oakenholt yn cwblhau rhaglen uwchraddio i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref presennol a’u trawsnewid yn unol â safonau modern.  Mae hyn oll yn bosibl oherwydd cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.   Bydd y datblygiad newydd yn gwella ein ffigurau ailgylchu ymhellach, gyda’r fantais o hygyrchedd i’n defnyddwyr.”

Hannah Blythyn 01.jpgHannah Blythyn 06.jpg