Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Erlyn landlord Sir y Fflint a aeth yn erbyn gorchmynion gwahardd 

Published: 30/10/2018

Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi erlyn landlord sector breifat Sir y Fflint am sawl trosedd dan ddeddfwriaeth tai sydd wedi'i llunio i warchod tenantiaid yn y sector rhentu preifat. 

Yn Llys yr Ynadon Wrecsam, plediodd David Peter Evans yn euog i droseddau’n ymwneud â 341 Stryd Fawr, ty amlfeddiannaeth wedi’i addasu’n wael yng Nghei Connah. Roedd y safle yn destun gorchmynion gwahardd a oedd yn gwahardd unrhyw un rhag byw yn y safle oherwydd peryglon iechyd a diogelwch difrifol megis peryglon tân, trydanol ac oerfel.  Fodd bynnag, hysbyswyd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd bod rhywun yn byw yn y safle. 

Cafwyd Mr Evans yn euog o fethu cydymffurfio â Gorchymyn Gwahardd a methu cydymffurfio â dau Orchymyn Gwahardd Argyfwng a wnaethpwyd dan Ddeddf Tai 2004 yn ymwneud â fflatiau 341 Stryd Fawr, Cei Connah. 

Derbyniodd Mr Evans ddirwy o £300 am bob un o'r tair trosedd, sef cyfanswm o £900. Gorchmynwyd hefyd iddo dalu £933 am gostau Cyngor Sir y Fflint ynghyd â £30 o ordal dioddefwr, sef cyfanswm o £1,863. 

Clywyd yn yr achos bod Mr Evans wedi gwerthu'r eiddo ac nad yw’n landlord bellach. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

 “Mae’r erlyniad llwyddiannus hwn yn pwysleisio'r neges glir na fydd Cyngor Sir y Fflint yn goddef unrhyw achos o herio rhybuddion a gorchmynion a osodir er mwyn warchod tenantiaid sy'n byw yn y sector rhentu preifat.  Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat mewn cyflwr da ac yn cynnwys y cyfleusterau angenrheidiol.”

 

P1030479.JPGP1030515.JPGP1030666.JPG

 

P1030518.JPGP1030588.JPG