Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr llwyddiannus i fyd arlwyo

Published: 31/10/2018

Mae Cymunedau dros Waith Sir y Fflint yn dathlu llwyddiant dau o’u cyn-“ddisgyblion” a fynychodd gwrs “Llwybr i fyd Arlwyo” y llynedd, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn.

Rhoddodd y cwrs gyfle i drigolion lleol ennill hyfforddiant, sgiliau a phrofiad ym meysydd arlwyo a swyddogaethau domestig.

Cafodd Janet Bentley ei chyfeirio at Cymunedau dros Waith gan y ganolfan waith, ac Alex Jones drwy’r swyddog cyswllt rhieni yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint.  Nid oedd yr un o’r ddau wedi gweithio ers rhai blynyddoedd pan aethant ar y cwrs Llwybr Arlwyo gan ennill nifer o gymwysterau yn cynnwys hylendid bwyd, codi a symud corfforol, iechyd a diogelwch a gwasanaeth cwsmeriaid.

Yn ystod y 12 mis ers cwblhau’r cwrs Llwybr, mae Janet ac Alex ill dau wedi derbyn cefnogaeth gan fentor. Roedd modd i’r ddau gwblhau lleoliadau gwaith yng Nghaffi’r Hen Lys yn Y Fflint, Llys Eleanor yn Shotton, ac yn adran arlwyo Hamdden Aura.  

Mae’r ddau bellach wedi sicrhau swyddi yng nghyfleuster newydd sbon Llys Raddington yn y Fflint.

Meddai Alex:

 “Roedd y mentora a’r profiad gwaith yn dilyn y cwrs yn wych, ac roedd o gymorth mawr i mi wrth wella fy CV a sicrhau profiad gwaith diweddar. Mae fy hyder ac fy sgiliau wedi cynyddu’n aruthrol.” 

Dywedodd Janet:

 “Mae’r profiad cyfan wedi bod mor gadarnhaol ac wedi gwneud cymaint o wahaniaeth.  Rwyf wedi ennill cymwysterau a sgiliau ac mae gen i bellach swydd fel cymhorthydd arlwyo yn y gyfleuster newydd arbennig yma yn y Fflint.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Y Fflint dros Ddatblygiad Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler:

 “Mae hon yn stori newyddion wirioneddol dda sydd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau fel Cyngor Sir Y Fflint a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd.  Nid yn unig y mae’r merched hyn wedi ennill cymwysterau a phrofiadau gwerthfawr, ond maent wedi cael eu cefnogi wrth ddychwelyd i fyd gwaith.”

Meddai Lisa Ramage, Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu Grwp Tai Pennaf, sydd yn cynnwys Cymdeithas Tai Clwyd Alyn:

 “Rydym wrth ein boddau i fod yn cefnogi’r fenter arbennig hon trwy ddarparu lleoliadau gwaith gyda’n cynlluniau amrywiol, lle y gall y sawl sydd dan hyfforddiant gynyddu eu hyder a’u sgiliau ymarferol er mwyn ychwanegu at eu CV a thrafod mewn cyfweliadau.

 “Mae’n deyrnged i bawb sydd ynghlwm â’r gwaith – gan gynnwys y rhai dan hyfforddiant, ein rheolwyr cynllun a Groundwork Gogledd Cymru, a ddarparodd yr hyfforddiant arbennig – y bu canlyniad mor llwyddiannus.

 “Rydym yn falch iawn o fod â Janet ac Alex fel rhan o'r tîm yn Llys Raddington. Dymunwn y gorau iddynt ac hoffem eu llongyfarch ar eu gwaith caled.”

Mae Cymunedau dros Waith yn raglen gan Lywodraeth Cymru sydd yn gweithio i gefnogi, uwchsgilio a chynnig profiadau i unigolion a fydd yn helpu i wella eu cyfleoedd cyflogaeth.

Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sydd yn gweithredu ar draws chwe sir yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. 

IMG_0128.JPGNia Parry a Debbie Barker Cymunedau am Waith  a Mwy, Alex a Janet, Lisa Ramage a Carol Thomas

 

Y Bwyty

IMG_0130.JPG