Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Diogelu Cenedlaethol 2018

Published: 05/11/2018

‘Mae diogelu yn fusnes i bawb’ ydir brif neges i bob un o breswylwyr Cymru wrth i Fyrddau Diogelu ledled Cymru, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, baratoi i lansio Wythnos Diogelu Cenedlaethol.

Mae Wythnos Diogelu Cenedlaethol yn rhedeg o ddydd Llun 12 i ddydd Gwener 16 Tachwedd. Gan weithio gyda phartneriaid o’r maes iechyd, y gwasanaethau brys, y trydydd sector ac eraill, mae’r Byrddau yn bwriadu codi ymwybyddiaeth pawb o beth mae diogelu yn ei olygu a’r llu o sefyllfaoedd y gall fod yn berthnasol.

Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a sicrhau eu lles. Mae sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a hapus yn rhan bwysig o ddiogelu hefyd.

Thema’r Wythnos Diogelu Cenedlaethol eleni yw Ecsbloetiaeth. 

Dywedodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin, Cefnogwyr Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint:

“Rydym ni’n llwyr gefnogol o’r Wythnos Ddiogelu a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu sydd yn cynnwys cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, priodas dan orfod, masnachu mewn pobl a throseddau rhywiol difrifol.

“Mae’n bwysig bod gan bob un ohonom ni fwy o ymwybyddiaeth o’r materion a’n bod yn amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Ein prif neges yr wythnos hon ydi “Os gwelwch chi rhywbeth – Dywedwch rhywbeth.  Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb” – mae’n rhaid i bob un ohonom allu adnabod yr arwyddion a bod yn ymwybodol o sut i roi gwybod amdanyn.”

I gael gwybod mwy am ddiogelu ac i gael manylion llawn o’r digwyddiadau ar draws gogledd Cymru, ewch i: www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru.