Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Menter newydd y Cyngor i reoli'r gwerthiant o nwyddau ffug o fewn grwpiau cyfryngau cymdeithasol lleol

Published: 09/11/2018

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint yn lansio menter newydd i amddiffyn prynwyr lleol a busnesau bach rhag y niwed a achosir gan y twf mewn masnachu nwyddau ffug ymysg grwpiau prynu a gwerthu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu rhaglen Gwir Gynnyrch ar-lein, menter genedlaethol sy’n sicrhau nad yw grwpiau prynu a gwerthu ar y cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo’r gwerthiant o nwyddau ffug a chynnyrch anghyfreithiol eraill, ac yn annog perthnasau gweithio agosach rhwng y grwpiau a’u gwasanaeth Safonau Masnach lleol.

Yn ystod cyfnod cyn y Nadolig, bydd Swyddogion Safonau Masnach yn nodi holl grwpiau prynu a gwerthu yn ardal sir y Fflint sy’n gweithredu ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddent yn cysylltu â gweinyddwyr y grwpiau i’w gwneud yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol a’u gwahodd i ddilyn Cod Ymarfer Gwir Gynnyrch Ar-lein.

Mae’r Cod Ymarfer yn gofyn i weinyddwyr y grwp groesawu Swyddogion Safonau Masnach fel aelodau o’r grwp a chytuno i bum cam syml:

1. Gwahardd y gwerthiant o nwyddau ffug neu anghyfreithiol;

2. Gweithredu ar wybodaeth gan berchnogion Hawl Eiddo Deallusol a’u cynrychiolwyr sy’n amlygu’r gwerthiant o nwyddau anghyfreithiol.

3. Hysbysu Safonau Masnach os credent fod nwyddau anghyfreithiol yn cael eu gwerthu o fewn y grwp a gwahardd gwerthwyr y nwyddau hyn;

4. Amlygu rhybuddion a hysbysiadau cynghori a gyhoeddir gan Safonau Masnach;

5. Sicrhau fod holl aelodau’r grwp yn ymwybodol o’r polisi ymwrthod â nwyddau ffug.

Bydd y grwpiau gwerthu sy’n cytuno i ddilyn Cod Ymarfer Gwir Gynnyrch, yn cael arddangos logo Gwir Gynnyrch™ a fydd yn gweithredu fel sicrwydd gweledol i siopwyr a masnachwyr ei fod yn ardal siopa sy’n ymwrthod â nwyddau ffug.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Sir y Fflint dros Gynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi:

“Mae hwn yn fenter bwysig, mae’n rhoi sicrwydd i bobl nad ydynt yn prynu nwyddau ffug nad ydynt yn ddiogel.  Os oes unrhyw un yn credu bod rhywun yn darparu nwyddau ffug, dylent adrodd y manylion i'r gwasanaeth Safonau Masnach.”

Mae’r fenter newydd yn estyniad naturiol i’r ymgyrch Gwir Gynnyrch sydd mewn grym mewn marchnadoedd a ffeiriau cist car ers bron i ddeng mlynedd ac sydd wedi gweld oddeutu 500 ar draws y DU yn cofrestru'n wirfoddol ar gyfer y Siarter Gwir Gynnyrch er mwyn atal y gwerthiant o nwyddau ffug. 

Cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint y Siarter Gwir Gynnyrch mewn marchnadoedd lleol a ffeiriau cist car, ac mae Safonau Masnach wedi bod yn hapus iawn gyda’i effaith i leihau'r nifer o eitemau ffug sydd ar werth, ac felly wedi penderfynu ei ymestyn i'r cyfryngau cymdeithasol.