Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diwrnod Canoloesol
  		Published: 06/08/2014
Dewch i ddarganfod yr oesoedd canol, o saethyddiaeth ac arfwisgoedd i ddillad a 
meddyginiaeth, yn Niwrnod Canoloesol yr Archifdy.
Bydd Cymdeithas Ganoloesol Samhain yn ail-greu bywyd yn yr ardal leol yn ystod 
y 14eg ganrif ddydd Sadwrn 16 Awst yn yr Hen Reithordy ym Mhenarlâg o 11am tan 
4pm.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn addas i deuluoedd gyda nifer o 
weithgareddau i blant, gan gynnwys nyddu gwlân, caligraffeg, gwisgo helmedau a 
menyg dur canoloesol neu chwarae gemau bwrdd canoloesol.
Yn ogystal, bydd dogfennau canoloesol o gasgliadau’r archifdy yn cael eu 
harddangos a darperir lluniaeth ysgafn.  Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01244 
532364 neu e-bostiwch archives@flinsthire.gov.uk