Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad ar hawl brodyr neu chwiorydd i gael cludiant ysgol

Published: 19/11/2018

Bydd Cabinet Sir y Fflint yn cael dadl dros hawl brodyr neu chwiorydd i gael cludiant ysgol am ddim, pan maent yn cyfarfod yn hwyrach ymlaen y mis hwn.

Cwblhawyd astudiaeth ar gludiant ysgol fis Medi’r llynedd, a nododd gyfleoedd am drefniadau darparu gwasanaeth amgen ac arbedion effeithlonrwydd posibl.   

Yn gyfreithiol, mae’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy’n mynd i ysgol uwchradd, sy’n byw 3 milltir neu fwy o’u hysgol addas agosaf a 2 filltir neu fwy o ysgolion cynradd, ac mae Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Sir y Fflint yn adlewyrchu hyn. 

Lle nad yw disgyblion wedi gallu diogelu lle yn yr ysgol addas agosaf, yna rhoddir cludiant am ddim i’r ysgol addas agosaf nesaf, ar yr amod bod y meini prawf pellter yn cael eu bodloni a bod cyfiawnhad yn cael ei roi i ddangos pam nad yw plentyn yn mynychu'r ysgol addas agosaf.  

Efallai nad yw amgylchiadau penodol un disgybl yr un fath ag amgylchiadau’r brawd neu’r chwaer pan fyddant yn dechrau mewn ysgol newydd, ac ar hyn o bryd nid yw’r polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol yn dweud unrhyw beth ar y mater o frodyr neu chwiorydd yn cael cludiant am ddim ar sail brawd neu chwaer hyn sydd eisoes yn cael cludiant am ddim i ysgol benodol.  Nid oes gofyniad cyfreithiol i roi cludiant i'r brawd neu’r chwaer os allant fynd i’w hysgol agosaf, ac nid yn gallu cyfiawnhau cludiant am ddim i'r ysgol honno'n seiliedig ar y meini prawf pellter.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae hon yn sefyllfa anodd oherwydd mae Sir y Fflint, wrth gwrs, eisiau rhoi cymaint o ddewis â phosibl, ond yn yr hinsawdd gyfredol hon, rydym hefyd angen edrych ar y ffordd fwyaf cost effeithiol ac effeithlon o weithredu.  Mae Sir y Fflint yn treulio llawer mwy ar gludiant ysgol nag awdurdodau lleol eraill ac felly, mae’n hanfodol adolygu ein polisi, o ystyried ein sefyllfa ariannol.

“Byddwn yn ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun, ac os yw Polisi Cludiant yr Ysgol wedi newid ers i unrhyw frawd neu chwaer hyn gael cludiant am ddim, yna bydd y brawd neu chwaer ieuengach yn ddarostyngedig i’r Polisi mewn grym ar y pryd.”

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Carolyn Thomas: 

“Bydd y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol yn cael ei gymhwyso’n llym ac ni fydd brodyr neu chwiorydd â hawl awtomatig i gludiant hyd yn oed os rhoddir cludiant i frawd neu chwaer hyn.  Mae angen i rieni fod yn ymwybodol y bydd goblygiadau o ran cost.  Mae ceisiadau ar gyfer ysgolion yn cael eu dychwelyd nawr ar gyfer Medi 2019 ac mae rhieni angen gwybod am y polisi cludiant cyfredol wrth wneud eu dewis."