Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn

Published: 22/11/2018

White ribbon_.jpgMae Cyngor Sir y Fflint eto wedi dangos ei gefnogaeth i Ymgyrch y Rhuban Gwyn i roi terfyn ar drais yn erbyn merched.

Mae aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gwisgo rhubanau gwyn i hyrwyddo’r ymgyrch sy’n ceisio cael gwared ar bob math o drais yn erbyn merched.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd: 

“Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod 25 Tachwedd yn swyddogol fel Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn Erbyn Merched. Mae'r Rhuban Gwyn yn symbol o obaith am fyd lle gall merched a genethod fyw heb ofni trais.  

White Ribbon Campaign 01.jpg“Mae Sir y Fflint wedi cefnogi’r ymgyrch hon ers sawl blwyddyn. Mae siarad â phobl ifanc ac esbonio'r materion yn un o'r ffyrdd i ledaenu’r neges ac mae gwisgo rhuban gwyn yn ffordd wych arall i ddangos cefnogaeth.”

 

Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: 

“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo’n llwyr i Ymgyrch y Rhuban Gwyn ac mae’n bwysig ein bod ni fel sefydliad yn helpu i godi ymwybyddiaeth drwy ddangos ein hymrwymiad a'n cefnogaeth o amgylch 25 Tachwedd bob blwyddyn."

Mae’r ymgyrch Ymgyrch y Rhuban Gwyn yn gwahodd pobl i addo’u cefnogaeth. 

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar 01352 702590.

Os ydych chi’n dioddef o gam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch linell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 10 800.