Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


A548 Chester Road, y Fflint – Gwaith Cynnal Ffordd Gerbydau

Published: 23/11/2018

A548 Chester Road, y Fflint – Gwaith Cynnal Ffordd Gerbydau

 

Er mwyn caniatáu i waith arwynebu gael ei gwblhau, bydd Chester Road yn cau o’i chyffordd â Queens Avenue i gyffordd Church Street dros nos yn ystod y cyfnodau canlynol

 

Dydd Sul 25 Tachwedd 19:00 i ddydd Llun 26 Tachwedd 06:00

Dydd Llun 26 Tachwedd 19:00 i ddydd Mawrth 27 Tachwedd 06:00

Dydd Mawrth 27 Tachwedd 19:00 i ddydd Mercher 28 Tachwedd 06:00

Dydd Mercher 28 Tachwedd 19:00 i ddydd Iau 29 Tachwedd 06:00

Dydd Iau 29 Tachwedd 19:00 i ddydd Gwener 30 Tachwedd 06:00

 

Yn ystod y cyfnod yma drwy gydol y dydd (06:01 i 18:59) bydd Chester Road yn dychwelyd i’r traffig dwy ffordd arferol o dan gyfyngiad cyflymder o 10mya.

 

Bydd y system unffordd ar hyd Albert Avenue, a Prince of Wales Avenue a Duke Street yn cael ei dynnu dros nos Sul ac yn parhau.

 

Ni fydd Cerbydau Nwyddau Trwm yn cael mynd tu hwnt i gylchfan Croes Atti a bydd rhaid iddynt ddefnyddio’r A55 yn ystod yr oriau cau.

 

Dim ond cerbydau'r gwasanaethau brys fydd yn cael mynd trwy’r ardal sydd wedi’i gau.

 

Bydd yr holl gyffyrdd o fewn yr ardal sydd yn cwrdd â Chester Road ar gau. Bydd rhaid i draffig sydd eisiau defnyddio pont Castle Dyke Street dros y rheilffordd, ddefnyddio Evans Street.

 

Dywedodd y Cyng.  Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant:

 

 

“Hoffwn ddiolch i drigolion a busnesau lleol am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith hanfodol hwn ac rydym yn gweithio i sicrhau'r amhariad lleiaf."