Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ynni Adnewyddadwy
Published: 12/08/2014
Mae pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wedi cael ei nodi mewn cyfarfod busnes a
drefnwyd gan fenter o’r Cyngor Sir ac sy’n cynnwys rhai or cwmnïau mwyaf yn
Sir y Fflint.
Daeth Fforwm Busnes Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ynghyd yn eu cyfarfod
chwarterol yng Ngwestyr Days yn Sealand i drafod pwer gwyrdd a sut y caiff ei
ddefnyddio gan fusnesau Sir y Fflint. Cafodd pedwar prosiect ynni adnewyddadwy
cyffrous eu trafod yn y cyfarfod brynhawn dydd Gwener 4 Gorffennaf, gyda
siaradwyr yn tynnu sylw at brosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Orllewin
Cymru, Prosiect Ynni Solar gan Grwp Compton, y Prosiect Westernlink ac Ymchwil
Ynni Solar Tata.
Mae Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru yn cynnwys pum awdurdod
lleol Gogledd Cymru a bydd yn prosesu gwastraff gweddilliol cartrefi i leihau
safleoedd tirlenwi. Bydd y broses drin yn cynhyrchu lefelau uchel o wres a
phwer cyfunedig i’w defnyddio gan fusnesau lleol neur Grid Cenedlaethol. Mae
caniatâd cynllunio wedi’i roi yn ddiweddar i’r Prosiect Ynni Solar ar dir
gyferbyn â Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd Grwp Compton yn cynhyrchu
ynni pwer solar er budd busnesau a leolir yn y parc.
Dylai gorsaf bwer trawsnewidydd ar y parc diwydiannol, or enw’r Prosiect
Westernlink, fod yn weithredol erbyn 2016 a bydd yn trawsnewid pwer o ffermydd
gwynt yn bwer ar gyfer system y Grid Cenedlaethol. Ac mae’r Ganolfan Amlen
Adeilad Cynaliadwy (SBEC) yng Ngwaith Dur Tata ar Lannau Dyfrdwy yn hyrwyddo
ymwybyddiaeth o natur gynaliadwy eu cynnyrch gydag Ymchwil Technoleg Solar Tata
yn edrych ar dechnoleg arloesol a fydd yn gallu cynhyrchu ynni solar yn eu
cynnyrch.
Meddai Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu
Economaidd: “Mae hyrwyddo’r prosiectau hyn i gymuned fusnes Sir y Fflint yn
dangos sut mae sefydliadau, cyhoeddus a phreifat, yn gweithio gydai gilydd ar
atebion cynaliadwy er budd cwmnïau lleol ac ar yr un pryd yn creu swyddi.
Mae angen i ni gymryd y cyfleoedd hyn i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd newydd
yn y dechnoleg syn dod ir amlwg.
Meddai Askar Sheibani, Prif Swyddog Gweithredol y cwmni atgyweirio a
chefnogaeth telathrebu, Comtek, a chadeirydd Fforwm Busnes Parc Diwydiannol
Glannau Dyfrdwy: “Maer cyfarfodydd hyn yn arddangos y berthynas wych sydd gan
Gyngor Sir y Fflint gydai gymuned fusnes leol, sy’n beth prin yn y DU. Maen
profi pam bod dod at eich gilydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mor fawr, gan y
bydd y prosiectau cynaliadwyedd hyn yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer
Glannau Dyfrdwy ymhell ir dyfodol, gan greu economi sy’n fwy gwyrdd gan hyd yn
oed arwain at fwy o swyddi, wrth i bobl ddod yn rhan or prosiect. Mae hwn yn
gam mawr ymlaen i Lannau Dyfrdwy, sydd bellach wedi gosod esiampl i weddill
Prydain.”
Maer digwyddiad yn bosib o ganlyniad i brosiect cefnogi busnes ar gyfer
busnesau menter bach i ganolig ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a Stad
Ddiwydiannol Wrecsam, or enw Prosiect Parciau Busnes Strategol Gogledd
Ddwyrain Cymru, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Cyngor Sir y
Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Maer prosiect yn hyrwyddo
cysylltiadau rhwng busnesau preifat a chyrff cyhoeddus ar draws y rhanbarth.
Pennawd y llun: Aelodau Fforwm Busnes Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a
chwmnïau eraill a wahoddwyd ir digwyddiad.