Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadeirydd yn llongyfarch athletwr arbennig

Published: 05/12/2018

Ana.jpgCroesawodd Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham, Anastasia Blease i Neuadd y Sir yn ddiweddar.

Mae Anastasia yn 14 mlwydd oed ac yn ddisgybl blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn.

Hi yw’r unig chwaraewr o Gymru yn nhîm pêl fasged cadair olwyn Prydain Fawr.

Mae Ana yn chwarae i dîm Knights Gogledd Cymru a hi oedd chwaraewr benywaidd cyntaf y tîm ieuenctid. Pan roedd hi ym mlwyddyn 8, roedd hi’n is-gapten ar dîm ieuenctid Cymru ac fe helpodd hi nhw i ennill y wobr arian ym mhencampwriaethau pêl fasged cadair olwyn Caerwrangon. Roedd yn foment hanesyddol, gan nad oedd yr un tîm arall o Gymru wedi perfformio cystal.

Ym mis Mawrth eleni, dewiswyd Ana ar gyfer tîm dan 24 mlwydd oed Prydain Fawr, ac fe deithiodd i’r Iseldiroedd i wersyll pêl fasged merched rhyngwladol lle'r oedd cyfle iddi ehangu ei gwybodaeth am y gêm ac ennill profiad o chwarae gyda, ac yn erbyn chwaraewyr rhyngwladol.

Yn 14 mlwydd oed, hi yw aelod ieuengaf tîm dan 24 mlwydd oed Prydain Fawr a enillodd Bencampwriaeth Ewrop yn ddiweddar.  Enillodd y tîm bob gêm yn y twrnamaint, ac maent nawr wedi ennill eu lle ym Mhencampwriaeth y Byd yng Ngwlad Thai'r flwyddyn nesaf.

Eleni, fe enillodd hi Wobr Dyfodol Disglair Ymddiriedolaeth Richard Langhorn, sy’n nodi unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad anhygoel i bêl fasged cadair olwyn.  Enillodd hi wobr “Person Ifanc Byd Chwaraeon y Flwyddyn” yng Ngwobrau Chwaraeon Cymuned Sir Ddinbych yn Llangollen hefyd.

Dyma ferch ifanc arbennig a ddewiswyd gan #IamEmbolden Anabledd Cymru fel Llysgennad – gan chwalu stereoteipiau, cyflawni pethau anhygoel a chreu newid cadarnhaol. Mae hi’n gobeithio chwarae yn y Gemau Paralympaidd un diwrnod.