Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad o'r Gwasanaeth gwastraff gardd taladwy

Published: 06/12/2018

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint  yn trafod effaith y gwasanaeth gwastraff gardd daladwy yn ei gyfarfod yr wythnos nesaf.  

Cyflwynwyd y ffioedd newydd yn Ebrill 2018 i helpu'r Cyngor i gadw at ei gyllideb ac i sicrhau bod y gwasanaeth yn ôl y disgresiwn hwn yn adennill costau yn llawn. 

Gofynnir i’r Pwyllgor Craffu i gefnogi’r parhad o’r polisi codi ffi ar gyfer 2019 a thu hwnt a bod y gost bresennol o £30 fesul bin yn aros yr un fath yn 2019.

Yn y flwyddyn gyntaf o’r broses tanysgrifio, gwerthwyd 33,871 o drwyddedau sydd yn golygu dros 40% o breswylwyr wedi tanysgrifio am o leiaf un bin i gael ei gasglu o dan y gwasanaeth newydd. 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae’r defnydd gwirioneddol wedi rhagori ryw fymryn ar ein targed ariannol sydd yn golygu y gallwn o bosib edrych ar systemau yn seiliedig ar dechnoleg sydd yn cynnig dull mwy effeithlon o gofrestru bin i eiddo. Bydd hynny’n cyflymu’r broses rheoli a thalu ac yn cael gwared ar yr angen i ddosbarthu sticeri dyrannu bob blwyddyn.  Rydym yn argymell fod dewisiadau ar gyfer hyn yn cael eu hystyried a’u cyflwyno mewn amser i dymor 2020.  

Cynnig pellach yw peidio ag ymestyn y gwasanaeth i wasanaeth drwy gydol y flwyddyn.  Mae galw cyfyngedig am y gwasanaeth rhwng Rhagfyr a Chwefror, ac er ein bod wedi derbyn nifer fechan o geisiadau am wasanaeth drwy gydol y flwyddyn, mae’r rhan fwyaf o breswylwyr wedi derbyn y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd. Mae’r holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty yn derbyn gwastraff gardd drwy gydol y flwyddyn.  Mae hefyd yn golygu bod cymhwysedd i gasglu gwastraff ailgylchu ychwanegol sy’n hel dros gyfnod y Nadolig sy’n un o’n amseroedd prysuraf o’r flwyddyn.

Mae hefyd yn cael ei argymell, ar ôl adolygiad gofalus, na chynigir cyfradd gostyngol i breswylwyr ar fudd-daliadau.  Byddai’n anodd darparu gostyngiad o’r fath heb olygu costau ychwanegol i breswylwyr eraill sydd ddim yn gymwys a byddai rheoli system o'r fath yn gostus ac yn gofyn amser wrth gyflawni gwiriadau a monitro newidiadau mewn amgylchiadau.  Mae traean o’r rheiny sydd wedi prynu'r gwasanaeth yn rhan o Gynllun Rhyddhad Treth Y Cyngor.