Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu taliadau meysydd parcio

Published: 07/12/2018

 Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn ystyried canlyniad yr adolygiad o daliadau meysydd parcio newydd pan fyddant yn cyfarfod yr wythnos nesaf.

 Codwyd y taliadau newydd ym Mai 2018 i helpu’r Cyngor fantoli ei gyllideb ac i sicrhau bod yr incwm o’r meysydd parcio’n cyd-fynd â’r gost o ddarparu'r gwasanaeth.

 Gofynnodd Cabinet Sir y Fflint am adolygiad o’r taliadau parcio newydd ar ôl chwe mis, ac mae hyn bellach wedi’i gwblhau, ac mae nifer o newidiadau i’r trefniadau codi tâl a argymhellir yn cael eu cynnig.

 Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

 “Mae pob awgrym a diwygiad wedi’u hystyried yn erbyn strategaeth parcio ceir y Cyngor, a gymeradwywyd i reoli’r meysydd parcio a sicrhau bod mannau parcio ar gael i siopwyr ac ymwelwyr â’n canol trefi.  Cyflwynwyd y taliadau i helpu tuag at adennill costau cynnal a chadw a rhedeg meysydd parcio.

 “Mae sawl diwygiad wedi’u cynnig, ac er bydd rhai yn cynyddu incwm i sicrhau y cynhelir y meysydd parcio mewn cyflwr derbyniol, byddant hefyd yn cynnig mwy o lefydd a hyblygrwydd."

 Mae’r newidiadau a ffefrir i’r strategaeth meysydd parcio isod.   Mae’n bwysig sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau awgrymedig yn cael eu gwerthuso yn erbyn y strategaeth gyfredol.

 I gyflwyno taliadau talu ac arddangos ar y drydedd haen o’r maes parcio yn Neuadd Y Sir ar y mannau sydd agosaf at Neuadd Llwynegrin, gyda mannau sy’n weddill ar yr haenau’n cael eu cadw i ddeiliaid trwydded yn unig.

  1. I gyflwyno band tariff 4 awr yn Neuadd Llwynegrin, bydd y cynnydd mewn amser yn fwy cyfleus i bobl sy’n ymweld ac yn dod i briodasau yn Neuadd Llwynegrin.
  2. I gynyddu’r tâl ym maes parcio Alexander Street, Shotton i £2 drwy’r dydd. Bydd hyn yn alinio gyda’r pris i ddefnyddwyr Gorsaf Reilffordd y Fflint.
  3. Bydd prawf o swyddogaeth talu digyffwrdd a sglodyn yn digwydd mewn tri lleoliad dethol, am ffordd sydyn a chyfleus i dalu’r pris addas.  Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y trefniant ei ymestyn i feysydd parcio eraill ar draws y Sir ac ar gyfer bob peiriant newydd a osodir yn y dyfodol.
  4. Argymhellir treialu cyfleuster 'talu gyda ffôn' ar un o'r peiriannau talu ac arddangos yn y Sir. Opsiwn hyfyw fyddai’r peiriant yng Ngorsaf Reilffordd y Fflint, oherwydd natur y cwsmeriaid sy’n defnyddio’r maes parcio. Os yw’n llwyddiannus, byddai’r opsiwn talu hwn yn cael ei gyflwyno mewn lleoliadau addas eraill ar draws y Sir.
  5. Mae adolygiad o wneud y gorau o barcio ar y stryd mewn canol trefi, er mwyn darparu rhywfaint o barcio arhosiad tymor byr ar gyfer ymweliadau sydyn i ganol y dref os yw'n bosibl, yn cael ei ganiatáu yn y strategaeth. Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn treialu cael gwared ar barth cerddwyr Canol Tref Treffynnon, i ddarparu mannau parcio ar y stryd am ddim ac annog siopwyr i'r dref.
  6. Mae’r pris o £1 yn yr Wyddgrug wedi’i gynyddu o 2 awr i 3 awr mewn meysydd parcio arhosiad hir a byr.  Roedd y cynnig o fewn y strategaeth ac nid oedd cyfyngiadau’n cael unrhyw effaith ar lefelau incwm a gellid eu cefnogi. Ar y sail hon, cyflwynwyd y trefniadau diwygiedig ym mis Medi.
  7. Adolygiad o’r parcio i gynyddu mannau parcio sydd ar gael ym maes parcio Stryd Newydd, yr Wyddgrug, i gefnogi’r cynnydd mewn ymwelwyr â chanol y dref.
  8. Gellir cefnogi awgrym i gefnogi parcio am ddim yn ystod gwyliau canol tref mewn un maes parcio, am hyd at 2 ddiwrnod y flwyddyn, ym mhob tref yn y Sir, yn seiliedig ar gais ffurfiol ac Achos Busnes yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Tref.  Byddai cynnig parcio am ddim yn Rhagfyr mewn trefi’n cael ei ystyried o fewn y strategaeth, a byddai’n cael ei ddosbarthu fel un digwyddiad i’r Dref (os caiff ei gymeradwyo), fodd bynnag, oherwydd y cyfnod estynedig, byddai’r gost i ddarparu’r trefniant hwn yn cael ei phasio gan y Cyngor Tref.