Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arddangos ein Gwasanaethau 2014

Published: 11/08/2014

Bydd arddangosfa o waith Timau Gwasanaethau Cefn Gwlad a Thwristiaeth Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint i’w gweld yn y sioe sir flynyddol a gynhelir yn y Grîn yn Ninbych ddydd Iau, 21 Awst. Thema arddangosfa’r Cynghorau ar y cyd fydd Diwrnodau i’r Brenin - Ar Garreg eich Drws’. Bydd arddangosiadau ac arddangosfeydd ymarferol yn rhoi cyngor a gwybodaeth ynglyn â sut y gall preswylwyr ac ymwelwyr fwynhau cefn gwlad prydferth, pentrefi, hanes a threftadaeth Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Bydd arddangosfeydd allanol yn dangos gwaith ceidwaid yr arfordir gan ddefnyddio gweithgareddau ac arddangosfeydd i helpu pobl o bob oedran i werthfawrogi a deall ein morlin ardderchog, adeiladu wal gerrig a thechnegau i’ch helpu i fwynhau gweithgareddau awyr agored. Bydd arddangosfeydd yn y babell yn cynnwys safle cloddio archegolegol bach, amgueddfa o atgofion, Carchar Rhuthun a gwybodaeth am gyfoeth o weithgareddau a lleoedd i ymweld â nhw ledled y ddwy sir. Bydd meithrinfeydd Triffordd o Sir y Fflint yn arddangos eu planhigion a bydd cwmni nwyddau coed Meifod o Sir Ddinbych yn arddangos rhai o’u celfi gardd. Gall ymwelwyr yr arddangosfa gymryd rhan mewn raffl i ennill hamper o fwydydd a gynhyrchir yn lleol. Meddai arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: Dyma’r chweched flwyddyn i ni weithio ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych ac eleni byddwn yn arddangos sut y gall pobl o bob oedran fwynhau cyfoeth o atyniadau sydd ar gael yn y ddwy sir. Meddai Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE : Mae’r ddau gyngor yn falch o gael cydweithio a chefnogi’r sioe unwaith eto. Mae’r digwyddiad yn un poblogaidd a phwysig iawn yn y calendr amaethyddol. Nodiadau i olygyddion: Am fwy o wybodaeth ffoniwch y Tîm Cyfathrebiadau Corfforaethol ar 01352 702112