Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Casgliad Gwerthiant nwyddau Cartref drwy Fenter Gymdeithasol 

Published: 14/12/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo hysbyseb tendr cystadleuol sengl ar gyfer gwasanaeth casglu eitemau gwastraff swmpus a’r gwasanaeth adeiladu pan maent yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y mis.

Mae’r Cyngor wedi cytuno i fenter gymdeithasol leol gasglu a thrin eitemau gwastraff swmpus yn y Sir. 

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Dan reolau ariannol presennol, mae’n rhaid i’r Cyngor dendro’r gwaith hwn i sicrhau gwerth am arian, hyd yn oed os yw’r darparwr a ddewisir yn sefydliad elusennol neu o’r trydydd sector.

“I sicrhau ein bod yn ennill y gwerth cymdeithasol orau, ynghyd â gwerth am arian, rydym yn gofyn bod y broses gaffael yn cael ei neilltuo i bob menter gymdeithasol cymwys ac addas.”

Mae Glasbrint Casgliadau Gwastraff Llywodraeth Cymru yn argymell bod Awdurdodau Lleol yn darparu gwasanaeth ar gyfer casglu’r deunyddiau hyn, a fyddai’n cael eu darparu mewn ffordd sy’n gwneud y mwyaf o’u gwerth.