Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y newyddion diweddaraf am Stryd Fawr Treffynnon

Published: 20/12/2018

Bydd y trefniant traffig dros dro yn Stryd Fawr Treffynnon yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2018, yn dilyn cynllun peilot sydd wedi cael ei gefnogi gan Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref Treffynnon a’r Busnesau Lleol, i asesu gwerth newid tymor hir i drefniadau traffig y ffordd. 

Caewyd y Stryd Fawr i geir yn y 1990au, ac ers hynny, mae llawer o drafod wedi bod yn lleol ynghylch gwerth ac effaith y statws 'di-draffig’ ar fusnesau a nifer yr ymwelwyr. 

Er mwyn helpu’r holl bartïon i ddod i benderfyniad terfynol ynghylch yr ateb gorau ar gyfer y dref, cyflwynwyd trefniadau treial ym mis Mai 2018 er mwyn caniatáu i fusnesau a Chynghorau fesur effaith y ffordd â thraffig (a oedd hefyd yn darparu ychydig o lefydd parcio ar y stryd ar gyfer ymweliadau byr i’r dref) – o’i gymharu â'r stryd di-draffig bresennol. Yn ystod cyfnod y peilot, cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn y Ganolfan Gysylltu leol ar y Stryd Fawr, a oedd yn boblogaidd iawn ymysg busnesau yn ogystal â siopwyr. 

O ganlyniad i’r treial, mae Cynghorau yn ogystal â phob busnes bellach yn gallu cefnogi’r uchelgais hirdymor i symud at drefniant nad ydyw’n cynnwys parth cerddwyr ac mae cam nesaf y broses eisoes wedi dechrau ac yn cynnwys lobïo am gyllid i weithredu'r cynllun terfynol. 

Nid yw’r ffordd fel y mae ar hyn o bryd yn addas ar gyfer trefniant traffig parhaol ac mae’r rhan fwyaf o’r marciau ffordd, a gafodd eu gosod dros dro er mwyn amlygu llinell y ffordd drwy’r dref a’r cyfyngiadau parcio yn ystod cyfnod y peilot, wedi diflannu’n barod. Felly, tra bydd y partïon yn ceisio dod o hyd i ateb o ran cyllid, bydd y ffordd yn dychwelyd i'r trefniant di-draffig o 1 Ionawr 2019. 

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

“Rwyf yn falch ein bod ni wedi gallu ariannu a chefnogi'r trefniant peilot ar y Stryd Fawr, sydd wedi ein galluogi i wneud penderfyniad terfynol ynghylch manteision gwaredu'r gorchymyn di-draffig gyda phob parti. Rydym nawr yn gallu symud ymlaen gyda’n gilydd i ddod o hyd i ateb o ran cyllid ar gyfer y gwaith parhaol, a fydd yn ein helpu ni gyd i barhau i gefnogi’r adfywiad yng Nghanol Tref Treffynnon.   Mae ceisio cyllid gan Lywodraeth Cymru yn flaenoriaeth i mi ynghyd â swyddogion, er mwyn agor y ffordd i draffig yn barhaol cyn gynted â phosibl.”

Dywedodd y Cynghorydd Ted Palmer, Cadeirydd Is-bwyllgor Canol y Dref dros Gyngor Tref Treffynnon: 

“Mae aelodau wedi siomi nad oedd y cais cyntaf am gyllid yn llwyddiannus, ond rydym yn ddiolchgar iawn am holl waith caled Cyngor Sir y Fflint a’r gymuned fusnes drwy gydol y broses hon ac rydym yn benderfynol o gael y cyllid sydd ei angen i weithredu'r cynllun. Rydym hefyd yn ymwybodol o ddiogelwch aelodau’r cyhoedd, ac er y byddai ymestyn y treial wedi bod yn braf, rydym yn deall safbwynt y Cyngor Sir ar y mater." 

Dywedodd Russ Warburton, Cadeirydd Grwp Busnes Treffynnon:

"Mae'r Grwp Busnes yn croesawu’r newyddion cadarnhaol y bydd Stryd Fawr Treffynnon yn agor i draffig ar sail barhaol ac y doir o hyd i gyllid er mwyn cwblhau'r cynllun cyn gynted â phosibl.   Rydym yn siomedig iawn â’r penderfyniad i gau’r Stryd Fawr i draffig ar 31 Rhagfyr 2018 a dychwelyd yn ôl i Stryd Fawr ddi-draffig o ganlyniad i’r gorchymyn traffig dros dro yn dod i ben.  

“Mae’r Cyngor Tref yn ogystal â’r Grwp Busnes wedi gofyn i Gyngor Sir y Fflint ymestyn y gorchymyn traffig dros dro nes y bydd gwaith ar y Stryd Fawr wedi dechrau, ond mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwrthod hyn.  Bydd y penderfyniad i gau’r stryd yn gwneud niwed i’r holl waith caled y mae’r Grwp Busnes a Chyngor Tref Treffynnon wedi’i wneud i wella Stryd Fawr Treffynnon.   RHAID sicrhau bod ariannu’r cynllun hwn yn flaenoriaeth brys i Gyngor Sir y Fflint.”