Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi contractwr campws Queensferry
Published: 11/08/2014
Mae contractwr wedi ei ddewis i adeiladu ysgol uwchradd newydd yn lle Ysgol
Uwchradd John Summers yn Queensferry ac adnewyddu Ysgol Gynradd Queensferry
gyfagos.
Bydd Kier Construction yn adeiladur cynllun £18.5miliwn i ddarparu ysgol
uwchradd tri llawr â 600 lle ar gyfer plant 11-16 oed gyda chyswllt newydd i
ysgol gynradd â 240 lle wedi’i hadnewyddu ar gyfer plant 3-11 oed. Bydd plant
cynradd a myfyrwyr oedran uwchradd yn cael eu haddysgu yn y llety diweddaraf
or radd flaenaf gydar holl gyfleusterau TG modern i gynorthwyo gyda dysgu.
Bydd gwaith adeiladu yn ddechrau ym mis Gorffennaf 2015 gydar ysgolion newydd
i fod i agor ym mis Ionawr 2017. Bydd cyfleusterau presennol yn dal i gael eu
defnyddio tan yr amser hwnnw i sicrhau nad oes amharu ar ddysgwyr.
Maer contract wedii osod dan broses gaffael Fframwaith Contractwr Ysgolion ac
Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru newydd syn darparu grwp cyn-gymwysedig o
gontractwyr i gynghorau fel nad oes rhaid iddynt fynd trwy broses dendro hir a
drud, gan arbed ar amser a chostau. Nid yn unig maer contractwyr yn cael eu
dewis mewn ffordd deg, maent yn cynyddu’r buddion ir gymuned leol, cynnal
datblygiad economaidd a darparu adeiladau syn gadarn yn amgylcheddol wrth greu
swyddi a phrentisiaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
“Rwyn falch iawn fod ein campws dysgu newydd diweddaraf yr 21ain Ganrif yn dod
yn ei flaen a bod gwaith i fod i ddechrau ar y safle o fewn y 12 mis nesaf.
Ynghyd â Champws newydd Treffynnon ar hwb Chweched Dosbarth yng Nghei Connah,
rydym yn datblygu cyfleusterau addysgol or radd flaenaf i blant a phobl ifanc
Sir y Fflint.
Meddai Gary Wintersgill, rheolwr gyfarwyddwr gweithrediadau gogleddol Kier
Construction: “Rydym yn falch iawn o fod wedi ein dewis ar gyfer y prosiect
pwysig hwn. Nid yn unig y mae’n rhoi cyfle i ni ddarparu amgylchedd dysgu
ysbrydoledig i Queensferry, ond hefyd yn ein galluogi i wneud y gorau or budd
economaidd yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer y gymuned leol. Drwy gynnig
cyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau, ac ymgysylltu âr gadwyn gyflenwi
leol, byddwn yn helpu i ddarparu etifeddiaeth barhaol ar gyfer yr ardal leol.