Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hyfforddeion yn Graddio
Published: 12/08/2014
Bu arweinwyr y Cyngor yn llongyfarch hyfforddeion Cyngor Sir y Fflint sydd
wedi llwyddo i gwblhau eu prentisiaethau neu sy’n gweithio ar wneud hynny yn y
seremoni wobrwyo flynyddol.
Allan o 68 o hyfforddeion, graddiodd 20 o brentisiaid o’u rhaglen yn y
digwyddiad yng Ngholeg Cambria ddydd Mercher 30 Gorffennaf a bydd nifer ohonynt
nawr yn symud ymlaen i swyddi llawn amser neu i brifysgol. Yn ogystal ag
ennill eu cymwysterau mae’r hyfforddeion wedi codi arian at elusen y coleg a
chyflwyno siec o £504.60 i’r coleg.
Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig prentisiaethau mewn adrannau ym
mhob rhan o’r sefydliad gan roi cyfle i bobl o bob oedran ennill cymwysterau
wrth ddatblygu eu sgiliau ymarferol a’u profiad yn y gweithle. Mae’r
bartneriaeth gref rhwng y Cyngor a Choleg Cambria yn golygu fod 84 y cant o
brentisiaid yn mynd i mewn i swyddi ac o leiaf 4 y cant yn mynd i brifysgol neu
hyfforddiant proffesiynol.
Trwy gydweithio â Choleg Cambria, gall y Cyngor gynnig prentisiaethau ym
meysydd gweinyddu, TGCh, cyfrifeg, plymio, gwaith trydanol, gwaith saer,
plastro, adeiladu, diogelu’r amgylchedd, peirianneg, arlwyo, garddwriaeth,
gwaith mewn warysau, harddwch a rheoli cefn gwlad.
Meddai Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint: “Mae ein rhaglen
brentisiaethau yn ffordd ardderchog i ni ddatblygu sgiliau a phrofiadau
angenrheidiol y gweithwyr. Mae prentisiaid yn cael profiad ymarferol a
hyfforddiant mewn swydd yn ogystal ag ennill cymwysterau a gydnabyddir yn y
diwydiant.”
Meddai Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r gwaith caled a’r ymroddiad i
wasanaeth cyhoeddus y mae ein prentisiaid presennol wedi’i ddangos yn gwbl
ysbrydoledig. Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu a chreu prentisiaethau o
safon yn barhaus. Roedd y seremoni wobrwyo ddiweddar yn ffordd wych o ddathlu
llwyddiant ein prentisiaid presennol ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu
prentisiaid newydd ar y rhaglen yn yr hydref.
Meddai Dirprwy Bennaeth Coleg Cambria, Ian Dickson a fynychodd y digwyddiad ar
ran y coleg: “Rydym yn hynod falch o weithio mewn partneriaeth â Chynllun
Prentisiaethau Cyngor Sir y Fflint. Mae’r seremoni wobrwyo yn ffordd wych o
ddathlu llwyddiant ac edrychwn ymlaen at groesawu prentisiaid newydd ar y
rhaglen.”
Llun o’r chwith i’r dde: Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron
Shotton, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett gyda hyfforddeion a
phrentisiaid Sir y Fflint, Prif Swyddog Pobl ac Adnoddau Helen Stappleton