Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Newydd
Published: 12/08/2014
Mae Cynghorau yng ngogledd Cymru wedi uno i ddarparu gwasanaeth cynllunio at
argyfwng rhanbarthol newydd, y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Bydd y tîm yn cynnwys chwe thîm cynllunio at argyfwng cynghorau gogledd Cymru
er mwyn sicrhau ymateb cydgysylltiedig gan yr awdurdodau lleol mewn
digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru megis llifogydd, tywydd garw, colli
cyflenwad trydan, trafnidiaeth neu ddamweiniau diwydiannol.
Bydd y Gwasanaeth yn cynorthwyo’r cynghorau i gyflawni eu rôl o baratoi gyda
gwasanaethau brys a sefydliadau eraill er mwyn ceisio darparu ymateb
cydgysylltiedig, aml-asiantaeth mewn argyfwng mawr.
Bydd tîm o 14 o aelodau yn gweithredu o ddau ganolbwynt yn yr Wyddgrug ac yng
Nghonwy a bydd yn cael ei reoli gan y Rheolwr Rhanbarthol Phil Harrison, cyn
Reolwr Cynllunio at Argyfwng Wrecsam a Dirprwy Reolwr Rhanbarthol Jonathan
Williams, cyn Reolwr Cynllunio at Argyfwng Conwy.
Meddai Phil Harrison: “Rydym wedi cyfuno arbenigedd holl dimau Cynllunio at
Argyfwng Gogledd Cymru i greu cytgord rhwng y cynlluniau amrywiol, lleihau
ailadrodd mewn ymdrechion a sicrhau fod yr ymateb gan gynghorau unigol yn
brydlon ac yn gadarn.
“Yn ôl yr arfer byddwn yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o asiantaethau
eraill sy’n ymwneud ag ymateb ac adfer mewn argyfwng megis yr heddlu, y
gwasanaeth tân, ambiwlans a Chyfoeth Naturiol Cymru.”
Meddai Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, yr awdurdod
arweiniol ar gyfer y cynllun rhanbarthol:
“Mae tywydd difrifol sydd wedi achosi argyfyngau llifogydd, er enghraifft, yng
ngogledd Cymru yn mynnu ymateb cydgysylltiedig gan y gwasanaethau brys a’r
cynghorau. Mae’n hanfodol ein bod yn barod i ymateb i ddigwyddiadau tebyg ac
unrhyw fath arall o sefyllfa argyfyngus. Cynllunio o flaen llaw yw’r ffordd
fwyaf effeithiol o sicrhau fod argyfyngau’n cael yr effaith leiaf bosibl ar ein
cymunedau lleol os ydynt yn digwydd.
“Mae ein dull gweithio newydd yng ngogledd Cymru wedi symleiddio’r gwasanaeth a
bydd yn sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau yn y modd mwyaf effeithlon
ac effeithiol i ddarparu ymateb o’r radd flaenaf i drigolion a busnesau.”