Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Anrhydeddu’r Cyngor yn Sioe’r Sir

Published: 21/08/2023

Roedd newid hinsawdd ar y rhaglen yn Sioe Dinbych a Fflint eleni.

Daeth Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych ynghyd ar gyfer cynnal stondin ar newid hinsawdd yn y digwyddiad poblogaidd ar 17 Awst.

Roedd y staff yn annog pobl i gymryd rhan yn y gweithgareddau gwahanol er mwyn cynnwys y teulu cyfan yn y drafodaeth ar newid hinsawdd.

Roedd y bobl ifanc yn trafod eu heffaith ar yr amgylchedd a chawsant eu gwobrwyo â medalau ‘cefnogwr yr hinsawdd’ pren am wneud addewidion ynghylch carbon. Cafwyd gemau hwyliog, arolygon â bwcedi a chyfleoedd i ddysgu am ynni adnewyddadwy.

Enillodd y stondin, a oedd wedi’i haddurno ag arddangosfeydd blodau hyfryd, planwyr wedi’u huwchgylchu a wal fyw diolch i brosiect garddwriaeth Tri-Ffordd, roséd yng nghategori’r stondinau anamaethyddol.

Meddai’r Cynghorydd Dennis Hutchinson, Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’n wych gweld y ddau gyngor yn parhau i gryfhau eu gwaith gyda’i gilydd ac ymgysylltu â phreswylwyr ar bwnc pwysig iawn. Rydym yn falch bod beirniaid y sioe wedi cydnabod ein hymdrechion i gyflawni hyn.”