Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn parhau i frwydro yn erbyn coed ynn peryglus

Published: 13/09/2023

Mae Tîm Coed Sir y Fflint yn parhau i weithio’n galed i leihau’r risg yn sgil coed ynn peryglus sydd wedi cael eu heintio gyda Chlefyd Coed Ynn, sef afiechyd ffyngaidd dinistriol sy’n golygu y bydd tua 90% o goed ynn yn y DU yn marw.

Yn dilyn arolygon yr haf yma o glefyd coed ynn ar draws y sir, mae Tîm Coed Cyngor Sir y Fflint wedi canfod coed ynn o bryder ac ardaloedd sydd â llawer o’r afiechyd, a byddant yn targedu gwaith yn yr ardaloedd sydd â’r risg mwyaf.    

Fel y blynyddoedd blaenorol, bydd y rhaglen torri coed yn golygu cael gwared ar goed ynn sy’n berchen i’r Cyngor wrth ymyl y ffordd sydd wedi’u heintio, a choed ynn sydd wedi’u heintio sy’n tyfu ar dir ysgolion, mewn mannau agored ac mewn parciau cefn gwlad.  Fel tirfeddiannwr cyfrifol mae gan Gyngor Sir y Fflint ddyletswydd gofal sy’n cynnwys cael gwared ar bob coeden ynn sydd wedi’i heintio’n wael sydd ar dir y Cyngor. 

Dywedodd y Cyng. Dave Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: "Mae Clefyd Coed Ynn yn cael effaith trychinebus ar boblogaethau ein coed ynn ac wrth i’r clefyd ledaenu ar draws y sir, mae ei effaith i’w weld yn fwy amlwg. Mae hi’n drist gweld cymaint o goed ynn yn diflannu o’n ffyrdd, ysgolion, mannau cyhoeddus a pharciau gwledig. Hoffwn ddiolch am waith caled y Tîm Coed am eu hymdrechion yn ceisio mynd i’r afael â’r mater yma."

Does dim y gellir ei wneud i atal y clefyd coed yma, a’r ffaith ein bod yn colli coed.  Serch hynny, er mwyn lliniaru’r colledion yma, bydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i blannu coed newydd ar draws y sir, nid yn unig i gymryd lle’r colledion yn sgil Clefyd Coed Ynn, ond i sefydlu coed a choetiroedd newydd a fydd o fudd i fioamrywiaeth a chyfrannu tuag at fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd.

Mae gan berchnogion tir hefyd gyfrifoldeb i sicrhau diogelwch coed ar eu tir ac os oes yna risg penodol i’r cyhoedd trwy goed wrth ymyl y ffordd, coed sydd yn ymyl eiddo eraill, a’r rhai sydd ar hyd llwybrau troed cyhoeddus, mae Sir y Fflint yn gofyn i berchnogion tir weithredu.