Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybrau diogel i ysgolion Treffynnon - dywedwch eich dweud!

Published: 15/09/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn am farn preswylwyr lleol am gynigion i weithredu isadeiledd Teithio Llesol (cerdded a beicio) ar ddau lwybr yn Nhreffynnon.

·         Mae Llwybr 1 yn gwasanaethu Ysgol Gynradd Gwenffrwd ac Ysgol Gynradd Gatholig Santes Gwenffrewi.

·         ac mae Llwybr 2 yn gwasanaethu Ysgol Treffynnon ac Ysgol Maes y Felin.

Mae’r cynigion yn seiliedig ar astudiaeth a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr yn 2022 lle nodwyd llwybrau allweddol i bob ysgol yn seiliedig ar ble mae’r disgyblion yn byw yn ogystal ag ymweld â’r safle, bwrw golwg ar broblemau y mae pobl sy’n cerdded a beicio yn eu hwynebu a chael trafodaethau gyda rhai o’r ysgolion.

Gall pobl ddweud eu dweud a rhannu eu barn mewn dwy ffordd: 

·         Bydd mwy o wybodaeth, yn cynnwys cynlluniau safle, ar gael i’w gweld ddydd Mawrth 19 Medi rhwng 1pm a 7pm yng Nghanolfan Gyswllt y Cyngor yn Nhreffynnon.

·         Bydd gwybodaeth, cynlluniau safle ac arolwg ar-lein ar gael ar wefan y Cyngor rhwng dydd Llun 11 Medi a dydd Llun 2 Hydref 2023. 

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes: “Gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gynnig y ddau Lwybr Diogel pwysig yma mewn cynlluniau Cymunedol sydd â’u nod o wella hygyrchedd i ddisgyblion, rhieni a phreswylwyr lleol yn Nhreffynnon.   

“Gyda’r cynigion yma, rydym yn ceisio gwella amodau i gerddwyr a beicwyr trwy ostwng cyflymder traffig, rhoi mwy o flaenoriaeth i gerddwyr a lledu’r troedffyrdd. Ynghyd ag ychwanegu isadeiledd gwyrdd, bydd yr ardaloedd yma’n darparu amgylchedd deniadol a diogel, gan annog mwy o bobl i gerdded a beicio’n fwy aml.”